Gan Dave Reid
Mae etholiad cyffredin 2019 yn drechiad sylweddol ond dros dro i weithwyr yng Nghymru. Mae’n debyg bydd llywodraeth Johnson yn gweithredu cyfres o fesurau yn erbyn gweithwyr a bydd toriadau i’r GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn parhau.
Yn anochel mae’r cyfryngau cyfalafol asgell dde yn udo am waed nid yn unig i geisio gorfodi Corbyn i fynd ond hefyd i gael gwared â’r gefnogaeth enfawr dros y polisïau cynrychiolodd yn y blaid. Maen nhw eisiau ailfeddiannu’r Blaid Lafur fel plaid 100% o blaid cyfalafiaeth ac yn goddef cynildeb. Mae aelodau seneddol asgell dde o Gymru, cyn gefnogwyr o lywodraeth Blair, ar flaen y gad wrth geisio gorfodi’r blaid i symud i’r dde.
Maen nhw’n honni nad safbwynt Corbyn ar Brexit oedd yn amhoblogaidd ond y polisïau yn y maniffesto. Honnodd Martin Shipton, prif ohebydd gwleidyddol y Western Mail, https://www.walesonline.co.uk/news/news-opinion/jeremy-corbyn-supporters-seek-deny-17416172#comments-section <https://www.walesonline.co.uk/news/news-opinion/jeremy-corbyn-supporters-seek-deny-17416172> nad oedd Brexit yn diffinio beth oedd yn digwydd yng Nghymru neu byddai mwy o seddi yn y cymoedd wedi disgyn. Mae o’n dadlau bod pobl yn erbyn Corbyn am eu bod nhw’n gweld o’n agos at ddosbarth canol Llundain a hynny collodd yr etholiad.
Collodd Llafur chwe sedd i’r Torïaid yng Nghymru – roedd y pump yng Ngogledd Cymru yn etholaethau a bleidleisiodd dros adael yr Undeb Ewropeaidd (roedd Pen-y-bont yn 50-50 Gadael-Aros). Disgynnodd pleidlais Llafur yng Nghymru o’r amser pan arweiniodd Corbyn y blaid i ganlyniad da yn 2017, ond roedd y bleidlais dal yn uwch na phleidleisiau Llafur yn 2005, 2010, a 2015 dan arweiniad Blair, Brown a Miliband (80,000 mwy na 2015 a rhan uwch, ond ennill tair sedd yn llai).
Mae’n glir nad addewidion y maniffesto ond safbwynt dryslyd y Blaid Lafur ar Brexit oedd y prif reswm am y gostyngiad yn y bleidlais o gymharu â 2017. Collodd Llafur pleidleisiau mewn ardaloedd a bleidleisiodd dros adael yn 2016 er bod y bleidlais mewn ardaloedd Aros wedi aros yr un peth neu hyd yn oed wedi cynyddu.
Roedd pleidleiswyr dosbarth gweithiol a’r pleidleiswyr hynny dros aros oedd eisiau sortio Brexit allan yn gweld Llafur fel plaid am aros. Roedden nhw’n meddwl byddai Corbyn a Llafur yn gwrthdroi penderfyniad y refferendwm yn 2016 i adael yr UE. Roedd y cred hynny’n cael ei gryfhau yng Nghymru pan ddywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford bod Llafur Cymru yn hollol yn erbyn Brexit a byddai’n ymgyrchu mewn ail refferendwm i aros.
Fel mae’r Blaid Sosialaidd wedi dadlau, roedd y bleidlais dosbarth gweithiol yn bennaf yn brotest yn erbyn effa
ith degawd o gynildeb. Os oedd Corbyn wedi cymryd safbwynt sosialaidd a rhyngwladol clir yn erbyn yr UE yn y refferendwm byddai’r cenedlaetholwyr Tori asgell dde wedi methu rheoli’r ymgyrch Brexit.
Ond roedd y safbwynt a gymerodd yn etholiad 2017 o addo i barchu canlyniad y refferendwm ar yr UE yn gallu ennill cefnogaeth pleidleiswyr dosbarth gweithiol oedd o blaid Brexit. Pleidleisiodd dros filiwn o bleidleiswyr UKIP dros Lafur yn yr etholiad hynny.
Mewn gwirionedd roedd Shipton yn cael ei ffeithiau yn anghywir. Roedd y gostyngiad ym mhleidlais Llafur yn fwy mewn llawer o seddi cymoedd De Cymru nac yn y seddi a gollwyd yng Ngogledd Cymru. Roedd llawer o bobl dosbarth gweithiol ar draws Cymru wedi cael eu cynddeiriogi gan ymdrechion ASau Llafur dros aros yn bennaf i rwystro canlyniad y refferendwm UE ac i atal Brexit. Roedd Johnson yn gallu smalio ei fod o’n wrthwynebydd i’r elît annemocrataidd ac roedd ei slogan o “Get Brexit done” yn atseinio gyda charfan fawr o gyn bleidleiswyr Llafur.
Nid oedd honiad Corbyn ei fod o’n brwydro yn erbyn yr elït yn lansiad ei ymgyrch yn taro deuddeg gyda phleidleiswyr Gadael dosbarth gweithiol. Roedd yn ymddangos ei fod o wedi bod yn cydweithredu â’r “Remainiacs” yn y senedd i rwystro Brexit. Mewn gwirionedd am beth amser roedd Corbyn wedi ceisio dal at safbwynt Brexit i’r Gweithwyr oedd yn parchu canlyniad y refferendwm. Ond yn y diwedd ildiodd i bwysau’r rhai Llafur o blaid Aros, yn bennaf y Blairites o amgylch Tom Watson, ac addawodd ail refferendwm oedd yn gallu gwrthdroi’r un cyntaf.
Dilynwyd y consesiwn hwn i’r Blairites gan gyfres o gonsesiynau gan Corbyn mewn ymdrech ofer i’w hennill nhw i gefnogi ei arweiniad. Ond fyddai’r Blairites asgell de, mwyafrif mawr yr ASau Llafur, byth yn derbyn arweinydd a gefnogodd polisïau radical oedd yn bygwth tanseilio nerth cyfalaf, faint bynnag o gonsesiynau byddai’n gwneud. Mewn gwirionedd dwy blaid mewn un yw’r Blaid Lafur – mwyafrif yr aelodau sy’n cefnogi Corbyn ar un ochr a’r Blairites o blaid cyfalafiaeth ar yr ochr arall – ac nid oes modd cymodi’r ddwy ochr.
Mae’n glir bod Corbyn wedi gobeithio torri trwy’r amheuaeth pleidleiswyr dosbarth gweithiol Gadael o’i safbwynt Brexit trwy gynnig maniffesto radical o ddiwygiadau. Roedd y polisïau eu hunain yn boblogaidd dros ben ond yr amheuaeth tuag at Corbyn yn arwain at amheuaeth a byddai’r polisïau yn cael eu gweithredu.
Cafodd ymgyrch milain y cyfryngau yn erbyn Corbyn effaith clir wrth droi llawer o weithwyr yn erbyn Corbyn. Ond roedd effaith yr ymosodiadau yn llawer gwaeth gan fod ASau eu hun a’i dirprwy yn arwain yr ymosodiadau yn ei erbyn, gan gynnwys yr honiadau ffug o wrth-semitiaeth. Ac roedd agwedd oddefol Corbyn tuag at ei feirniaid yn gwneud iddo edrych yn wan ac yn amhendant i lawer o weithwyr ac yn llai tebygol o weithredu ei bolisïau os oedd o’n cael ei ethol. Fel dywedodd Bill Clinton “Mae cryf ac anghywir wastad yn trechu gwan a chywir”.
Mae’r Blaid Sosialaidd wedi dadlau dyle democrateiddio’r Blaid Lafur a chael trefn ddemocrataidd o ail-ddewis neu beidio ag ail-ddewis ASau yn ddemocrataidd gan eu pleidiau lleol os oedden nhw yn hollol yn erbyn Corbyn neu yn gwrthwynebu polisïau pleidiau Llafur eu hetholaeth. Yn anffodus, roedd arweiniad y mudiad Corbynista Momentum (Welsh Grassroots Alliance yng Nghymru) yn cysgodi’r ASau Blairite oedd yn ymosod yn agored ar Corbyn trwy beidio â chefnogi trefn o ail ddewis ASau byddai’n rhoi cyfle i aelodau i gael gwared â’u ASau.
Mae Llywodraeth Cymru a Chynghorau Cymru dan ddylanwad ACau a Chynghorwyr sydd heb frwydro yn erbyn yr holl doriadau i wasanaethau cyhoeddus gan y Llywodraeth Tori. Trwy liwio’r toriadau hynny maen nhw’n helpu’r Ceidwadwyr i’w gweithredu.
Gwnaeth arweinydd Plaid Cymru Adam Price ymosodiad hynod o effeithiol ar ofal cymdeithasol yng Nghymru dan arweiniad y Blaid Lafur mewn trafodaeth etholiadol ar y teledu gyda Richard Burgon. Dangosodd sut roedd neges gwrth-gynildeb Corbyn yn cael ei thanseilio yng Nghymru gan fethiannau Llywodraeth Llafur Cymru. (Wrth gwrs, gellir gwneud yr un feirniadaeth yn erbyn Cynghorau dan arweiniad Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Gwynedd sydd wedi gwneud toriadau mewn union yr un ford â Chynghorau dan arweiniad y Blaid Lafur.)
Gall y Ceidwadwyr beio’r Blaid Lafur am gyflwr gwarthus y GIG yng Nghymru gan fod Llafur yn gwneud eu gwaith budr drostyn nhw: cau ysbytai lleol, cau wardiau ysbytai, cwtogi ar y gwasanaeth ambiwlans a gorfodi staff yr ysbytai i weithio dan amodau hynod o anodd. Ni tharodd ymosodiad Corbyn ar gynildeb y Torïaid deuddeg yng Nghymru gan ei fod o hefyd yn canmol Llywodraeth Cymru sy’n rheoli GIG sy’n dioddef dan yr un diffyg adnoddau a’r GIG yn Lloegr dan y Ceidwadwyr.
Mae’n bosibl bydd y Torïaid yn rhoi mwy o wariant cyhoeddus yn y gyllideb nesaf ond yn canolbwyntio ar wario mwy ar brosiectau isadeiledd fel ffyrdd yn hytrach na gwasanaethau cyhoeddus fel y GIG. Mae perygl bydd Llafur Cymru yn cael y bai am ddirywiad mewn gwasanaethau cyhoeddus fel y GIG tra mae’n edrych bod y Ceidwadwyr yn gwario ar brosiectau mawredd a chreu’r argraff eu bod nhw’n “gwneud pethau”.
Felly, yn hytrach na ffoi oddi wrth bolisïau sosialaidd mae taer angen i Lywodraeth Cymru a Chynghorau Llafur dechrau ymgyrch i gael digon o arian i’r GIG, addysg a gwasanaethau cyhoeddus eraill byddai’n dangos y ddelwedd ffug mae Johnson yn ceisio creu.
Dylen nhw wrthod gweithredu’r toriadau Torïaidd, a chyflwyno cyllideb sy’n adlewyrchu anghenion gwasanaethau cyhoeddus Cymru ac yn amlinellu’r gwelliannau materol mawr gellir gwneud ym mywydau pobl dosbarth gweithiol trwy wario beth sydd angen. Ac wedyn trefnu ymgyrch torfol o brotestiadau, gorymdeithiau a meddiannu ar draws Cymru i fynnu bod y Torïaid yn stopio eu hymosodiadau ar ein gwasanaethau a dangos celwyddau’r Ceidwadwyr yn ymarferol ac nid yn unig mewn geiriau.
Ond mae arweiniad presennol Llafur Cymru’n methu trefnu’r fath agwedd ac ymgyrch. Mae’n rhaid trefnu’r don o aelodau newydd a’r rhai sy’n dod yn ôl i Lafur Cymru, ochr yn ochr â’r sosialwyr hynny sy’n benderfynol i frwydro’n ôl yn erbyn llywodraeth asgell dde Johnson tu fewn i a thu allan i’r Blaid Lafur i gael gwared â’r ACau a Chynghorwyr Llafur Blairite cyn yr etholiadau i’r Cynulliad yn 2021 a’r etholiadau lleol yn 2022.
Mae Johnson wedi gallu cael mwyafrif seneddol trwy ganolbwyntio ar Brexit, dangos gwendidau arweinwyr Llafur ar y pwnc, a chyflwyno dim maniffesto ar y pynciau cymdeithasol sy’n bwysig i weithwyr. Er waethaf ei mwyafrif ni fydd llywodraeth Johnson yn gadarn a bydd symudiadau mawr o wrthwynebiad pan mae o’n ymosod et oar amodau byw gweithwyr. Bydd ei blaid yn rhwygo eto dros Brexit tra mae o’n ceisio cyflawni Brexit. A thrwy ennill yr etholiad efallai bod o wedi sicrhau diwedd ar Brydain gyda’r Alban yn symud tuag at annibyniaeth.
Mae’r mudiad streic gyffredinol yn Ffrainc yn arwydd o beth sy’n do di Brydain a Chymru. Bydd Plaid Sosialaidd Cymru yn rheng flaen y frwydr yng Nghymru.
Socialist Party Wales Socialism In Wales

