Home » Amdanom ni

Amdanom ni

Plaid Sosialaidd Cymru

Cymraeg1Plaid Sosialaidd Cymru yw blaid Gymreig Plaid Sosialaidd Lloegr a Chymru. Mae gennym hanes hir ac anrhydeddus o frwydro i amddiffynlles pobl dosbarth gweithiol ac rydym yn cymryd rhan mewn llawer ymgyrch ar draws Cymru ac yn cefnogi eraill yn rhyngwladol.

Rydym ar flaen y gad yn brwydro yn erbyn ymosodiadau cynildeb y Torïaid, gan gymryd rhan mewn ymgyrchoedd yn toriadau ar draws Cymru ac yn rhan o arweinyddiaeth sawl cangen undeb sy’n brwydro yn erbyn cynildeb pob diwrnod.

Rydyn ni wedi ymgyrchu ym erbyn cynildeb mewn sawl etholiad ers 2010 fel rhan o Glymblaid Undebwyr Llafur a Sosialwyr (TUSC) gydag undeb yr RMT a mudiadau sosialiaidd eraill. Roedd gennym 22 ymgeisydd yn etholiadau Cyngor 2017 yn sefyll i wrthwynebu Cynghorau asgelll dde Blairite sy’n torri ac yn preifateiddio gwasanaethau Cyngor yng Ngyymru.

Etholiad Cyffredinol

Gwnaethon ni cefnogi a helpu i ymgyrchu dros polisiau Jeremy Corbyn yn yr etholiad cyffredinol i weithredu polisiau yn erbyn cynildeb ac o blaid y dosbarth gweithiol. Cyn hynny, gwnaethon ni cefnogi ei ddau ymgyrch dros arweinyddiaeth y Blaid lafur – yn cynnwys ein haelodau yn galw am bleidlais drosto ymysg undebwyr llafur sy’n cysylltiedig â’r Blaid Lafur.

Tra roedd adain dde’r Blaid Lafur a’r cyfryngau honni bod Jeremy Corbyn yn ‘anetholadwy’, gwnaethon ni dadalu’n gyson y galla fo ennill yr etholiad cyffredinol gyda rhaglen hyderus, sosialaidd ac yn erbyn cynildeb. Y prif faich yw’r Blairites a’u olynwyr gydag agenda asgell dde o blaid cynildeb.

Craidd yr ymgyrch sy’n digwydd yn y Blaid Lafur yw er lles pa dosbarth mae’n mynd i weithredu – y mwyafrif dosbarth gweithiol a dosbarth canol heb lawer o obaith yn y dyfodol, neu’r 1% uchaf?

Mae asgell y Blaid Lafur sydd o blaid cyfalafiaeth yn dal i orchafu’r blaid seneddol a Chyngorau dan arweiniad Lafur, ac mae’n dal i reoli peiriant y Blaid Lafur yng Nghymru.

Mae awdurdodau lleol o dan arweiniad Lafur yn gweithredu cynildeb creulon. Mae Llywodraeth Cymru wedi pasio ymlaen toriadau Tori i gyllid ers 2010 ac mae Cynghorwyr Llafur yn gwneud eu ‘dyletswydd’ i gwtogi gan arwain at golli miloedd o swyddi a dinistrio gwasanaethau lleol anghenrheidiol.

Mae’n rhaid i’r mesurau i ddemocrateiddio’r Blaid Lafur cynnwys:

  • Pob aelod seneddol Llafur ac ymgeisydd Cyngor i wynebu ailddewis gorfodol gan aelodaeth eu Plaid Lafur lleol. Dyna beth digwyddodd yn y gorffennol, ond cafod ei ddiddymu gan y Blairites fel rhan o atgyfnerthu eu rheolaeth dros y blaid.
  • Dyle dychwelyd yr undebau i’w rôl yn y blaid ar sylfaen ddemocrataidd er mwyn i ddirprwyon yr undebau gallu cynrychioli barnau’r miliynau o aelodau.
  • Gadael i bob sosialydd sydd wedi cael ei daflu allan neu ei gadw allan i ymuno.
  • Dychwelyd i drefn federal, gan adael i bleidiau sy’n barod i dderbyn rhaglen gwrth cynildeb, gan gynnwys y Blaaid Sosialaidd, i ymgysylltu â’r Blaid Lafur fel mae’r Blaid Gydweithredol yn gwneud.

Yn erbyn y toriadau

Rydyn ni’n gwrthwynebu toriadau i’r GIG yng Nghymru. Fe wnaethon ni arwain yr ymgyrch yn erbyn Rhaglen De Cymru o doriadau i ysbytai’r GIG gan Lywodraeth Cymru.

Rydyn ni’n gwrthwynebu’n llwyr pasio ymlaen toriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus i bobl dosbarth gweithiol yng Nghymru a weddill Ewrop i dalu amyr argyfwng cyfalafol presennol sydd wedi cael ei achosi gan drachwant y bancwyr a’r mwyaf cyfoethog. Rydyn ni’n cefnogi ymgyrch torfol i wrthsefyll y toriadau yn cynnwys gweithwyr yn y sector cyhoeddus, defnyddwyr gwasanaethau, myfyrwyr a phawb yn y cymdeithas sydd wedi cael eu heffeithio ganddyn nhw.

Rydyn ni’n cefnogi ymgyrchu’r myfyrwyr i wrthsefyll codi ffïoedd dysgu prifysgol a thoriadau mewn addysg ac yn cefnogi adfer Lwfans Cynnal Addysg yng Nghymru.

Rydym yn ymgyrchu yn erbyn ffioedd addysg ac yn erbyn preifateiddio’n gwasanaethau. Rydym yn ymgyrchu dros gyflogau gwell, rhoi cap ar rentiau a thros addysg rhad ac am ddim.

Fe wnaethon ni ymgyrchu yn erbyn rhyfel a goresgyniad Irac ac Afghanistan a thros byd sosialaidd yn rhydd o ryfel a therfysg.

Rydym yn ymgyrchu i roi terfyn ar ddinistrio a llygru’n blaned a’i hamgylchedd.

Rydym yn cefnogi gweithwyr sy’n gweithredu’n ddiwydiannol. Mae aelodau Plaid Sosialaidd Cymru wedi cymryd rhan blaenllaw mewn anghydfodau pwysig, megis yr anghydfod yn ffatri darnau ceir Linamar yn Abertawe ac yn y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru.

Mae mwy nag 20 aelod o’r Blaid Sosalaidd wedi eu hethol i bwyllgorau Gwaith cenedlaethol y prif undebau llafur.

Dros Senedd i Gymru

Fe wnaethon ni ymgyrchu We campaigned in support greater powers for the Welsh Assembly to allow the Welsh working class to elect dros fwy o bwerau i Gynulliad Cymru i alluogi dosbarth gweithiol Cymru i ethol lywodraeth gyda phwerau gwirioneddol i wladoli ac i weithredu polisïau er lles pobl dosbarth gweithiol.

Rydyn ni’n cefnogi Cymru sosialaidd fel rhan o ffederasiwn sosialaidd yn cynnwys Cymru, Lloegr, yr Alban ac Iwerddon.

Mae pob un o’n cynrychiolwyr cyhoeddus megis aelodau seneddol a Chynghorwyr yn derbyn dim ond cyflog gweithiwr cyffredin ac yn rhoi gweddill y cyflogau a’r treuliau yn ôl i’r gweithwyr ac i’r mudiad sosialaidd.

Ewrop

Roedden ni’n rhan o’r ymgyrch No2EU – Yes to Democracy yn yr etholiadau Ewropeaidd ym mis Mehefin 2009 a mis Mai 2014.

Galwodd y Blaid Sosialaidd am bleidlais i adael yn refferendwm 23 Mehefin 2016 ar yr Undeb Ewropeaidd, gan ein bod ni’n wrthwynebu’r clwb i’r perchnogion sef yr UE. Mae’n amhosib dan ddeddfau’r UE i ail-wladoli diwyddiannau sydd wedi cael eu preifateiddio ac mae’n gorfodi cynildeb ar Ewrop i gyd. Mae’r polisïau sosialaidd mae’r Blaid Sosialaidd yn cefnogi yn anghyfreithlon dan gytundebau’r UE.

Rydyn ni’n brwydro dros les pobl cyffredin Prydain ac ar draws Ewrop – a byddai’n ffederasiwn gwirfoddol, democrataidd a sosalaidd.

Rydyn ni’n gwrthwynebu’r UE o safbwynt dosbarth hollol wahanol i UKIP, sydd o blaid busnes mawr, a’r ymadawyr Tori. Dyma pam gwnaethon ni wrthwynebu ymyrchoedd gadael swyddogol xenoffobaidd yn y refferendwm.

Darllenwch erthyglau’r Blaid Sosalaidd ar y refferendwm ar yr UE yma

Militant

Fel y Militant Tendency yn y 1980au a’r 1990au roedden ni’n ymgyrchu i ddychwelyd y Blaid Lafur i’w gwreiddau sosialaidd ac roedden ni’n gwrthwynebu ffurfio Llafur Newydd. Ni arweiniodd brwydr Cyngor Dinas Lerpwl dros tai boddhaol, swyddi a gwasanaethau, ac yn hwyrach, ni drechodd Treth y Pen Margaret Thatcher a’i gorfodi i ymddiswyddo.

Rhyngwladol

Mae’r Blaid Sosialaidd yn gysylltiedig â’r Pwyllgor dros Gymdeithas Gydwladol i’r Gweithwyr (Committee for a Workers’ International) sy’n trefnu mewn mwy na 50 gwlad. Mae gan y Blaid Sosialaidd yn Iwerddon 3 aelod yn y Dail (Senedd Iwerddon), yn yr Unol Daleithiau mae Kshama Sawant, aelod Cyngor Seattle yn un o arweinwyr Socialist Alternative ac yn Sbaen mae Izquierda Revolucianaria yn arwain Sindicato de Estudiantes, undeb y myfyrwyr.

 

Rydym yn Sefyll Dros

Mae’r Blaid Sosialaidd yn brwydro dros sosialaeth – cymdeithas ddemocrataidd sy’n cael ei rhedeg i gwrdd ag anghenion pawb ac nid elw’r ychydig. Rydyn ni’n gwrthwynebu pob toriad, gan frwydro yn ein hymgyrvhu o ddydd i ddydd dros bob gwelliant posib er lles pobl dosbarth gweithiol.

Mae gan y dosbarth gweithiol mewn undebau’r potensial i atal y toriadau ac i newid cymdeithas.

Gan fod cyfalafiaeth yn tra-arglwyddiaethu’r byd, mae’n rhaid i’r brwydr dros sosialaeth bod yn rhyngwladol.

Mae’r Blaid Sosialaidd yn rhan o’r Pwyllgor Dros Mudiad Rhyngwladol y Gweithwyr (Committee for a Workers’ International, CWI), mudiad sosalaidd rhyngwladol sy’n trefnu mewn dros 40 gwlad.

 

Strategaeth i ymladd y toriadau

  • Na i bob toriad mewn swyddi, a gwasanaethau cyhoeddus a budd-daliadau. Amddiffyn ein pensiynau.
  • Dros arweinwyr undeb bydd yn gwrthsefyll y toriadau.
  • Rhoi terfyn ar y cap 1% ar gyflogau! Gweithredu diwydiannol cenedlaethol i drechu’r cap.
  • Llywodraeth cymru a’r Cynghorau i wrthod gweithredu’r toriadau Tori ac i gynull ymgyrch torfol yn cynnwys streiciau ac anufudd-dod sifil i herio Llywodraeth y DU i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus
  • Mynnu cael yn ôl yr arian sydd wedi cael ei gwtogi o gyllid cyhoeddus yng Nghymru a’r £300m ychwanegol dyle Cymru cael gan y Llywodraeth.
  • Codi trethi ar y mwyaf cyfoethog. Cael yn ôl y £123bn mae’r wlad yn colli pob blwyddyn achos efadu ac osgoi trethi.
  • Peidio â sybsideiddio’r banciau a thaliadau bonws i’r bancwyr. Gwladoli’r banciau a’r tai cyllid.

Gwaith ac Incwm

  • Ymgyrch gan yr undebau llafur dros godiad yn yr isafswm cyflog ar unwaith i £12 yr awr heb eithriadau fel cam tuag at isafswm cyflog sydd o leiaf £15 yr awr. Dros godiad blynyddol yn yr isafswm cyflog yn gysylltiedig â chyfartaledd cyflogau.
  • Diwedd i gontractau dim oriau.
  • Pob gweithiwr, yn cynnwys gweithwyr rhan amser, gweithwyr dros dro, gweithwyr ysbeidiol a gweithwyr o dramor, i gael cyfraddau cyflog wedi eu cytuno gan yr undebau llafur, hawliau yn y gwaith, a hawliau o‘r diwrnod cyntaf i gyflog pan maen nhw’n sal ac i gael gwyliau.
  • Codi pensiwn ymddeol y gwladwriaeth 50% yn syth, fel cam tuag at bensiwn digonol. Ailsefydlu’r cyswllt rhwng pensiynau ag enillion ar gyfartaledd neu chwyddiant, pa un bynnag sydd uwch.
  • Gwrthwynebu toriadau i fudd-daliadau. Diddymu’r treth ar ystafell gwely a sicrhau asesiadau teg ac annibynnol o’r hawl i budd-daliadau anabledd. Rhoi terfyn ar drefn sancsiynau cosbedigol yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
  • Dros yr hawl i gael budd-daliadau digonol, addysg, hyfforddiant, neu swydd, heb orfodaeth.
  • Diddymu’r cyfreithiau gwrth-undeb. Dros undebau llafur sy’n brwydro ac sy’n cael eu rheoli yn ddemocrataidd gan yr aelodau. Swyddogion llawn amser i gael eu hethol yn rheolaidd ac i gael cyflog gweithiwr cyffredin.
  • Cefnogi’r Rhwydwaith Cenedlaethol y Stiwardiaid Llawr Gwaith (National Shop Stewards Network).
  • Dros yr hawl i’r Cynulliad gwladoli busnesau sy’n bygwth ymddiswyddiadau, gyda iawndal ond mewn achosion o angen profedig.
  • Dim mwy na 35 awr o waith yr wythnos, heb golli cyflog.
  • Gwladoli’r ffermydd anferthol a’r perchnogion tir mawr. Dros sicrwydd daliadaeth tymor hir i denantiaid fferm. Gwladoli’r adwerthwyr mawr i sicrhau pris teg i ffermwyr am eu cynnyrch, a benthyg arian iddynt heb log.

Gwasanaethau Cyhoeddus

  • Gwrthwynebu preifateiddio a’r Fenter Cyllid Preifat (PFI). Ail-wladoli pob gwasanaeth sydd wedi ei breifateiddio, gan dalu iawndal ond mewn achosion o angen profedig.
  • Ariannu pob gwasanaeth yn llawn a sefydlu pwyllgorau atebol a democrataidd yn cynnwys cynrychiolwyr y gweithwyr a defnyddwyr y gwasanaethau i’w rheoli.

GIG

  • Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol sosialaidd i ofalu am anghenion iechyd pawb – yn rhad ac am dim pan mae angen defnyddio’r gwasanaeth ac o dan reolaeth democrataidd.
  • Rhoi terfyn ar toriadau i’r GIG yng Nghymru – gwrthdroi’r toriadau i’r gwasanaeth damwain ac argyfwng.
  • Dychwelyd yr holl gwasanaethau iechyd i’r GIG. Diddymu pob contract preifat a chytundebau PFI.
  • Dros dyfiant enfawr mewn hyfforddiant rhad ac am ddim i ddoctoriaid, nyrsys a staff iechyd proffesiynol yng Nghymru. Dros lansio cynllun ‘Bevan’ – addysg yn rhad ac am ddim gyda grant ar gyfer myfyrwyr meddygol a nyrsio ar amod ymrwymiad i weithio yng Nghymru.

Addysg

  • Addysg rhad ac am ddim, o safon uchel, yn y sector cyhoeddus, ac ar gael i bobl o unrhyw oed.
  • Diddymu ffïoedd addysg y prifysgolion a sefydlu grant digonol. Diddymu dyledion y myfyrwyr.
  • Ail-wladoli Addysg Bellach yng Nghymru. Dod â cholegau Addysg Bellach yn ôl dan reolaeth yr awdurdodau lleol.
  • Rhoi’r hawl i ddisgyblion i ddewis un ai addysg Cymraeg neu Saesneg mewn ysgol agos gyda dosbarthiadau o ddim mwy na 20.
  • Diddymu profion cenedlaethol yng Nghymru – gadael i athrawon dysgu ac asesu.
  • Gwrthwynebu rhaglen y Cynulliad i gau ysgolion a cholli swyddi – gan ddefnyddio’r cwymp yn niferoedd disgyblion i greu dosbarthiadau llai.
  • Adeiladu ysgolion Cymraeg newydd pan mae angen. Peidio â chau ysgolion cymunedol. Dros ysgolion lleol yn y cymuned yn cael eu rhedeg gan byrddau ysgol etholedig.
  • Dros ehangu’r cynllun Flying Start ar gyfer pob plentyn dan 4 oed a sicrhau ysgol meithrin trwy’r dydd i bob plentyn 3-5 oed.

Tai

  • Cadw tai cyngor yn y sector cyhoeddus. Dros rhaglen anferthol i adeiladu tai cyhoeddus, ar sylfaen amgylcheddol gynhaliadwy, i ddarparu tai o safon uchel gyda rhenti fforddiadwy.
  • Siarter ar gyfer tenantiaid preifat.
  • Rheolaeth dros rentiau a chap i gadw rhentiau at lefel fforddiadwy.
  • Diddymu ffïoedd asiantau gosod.
  • Defnyddio Defnyddio Defnyddio cofrestr o’r landlordiaid preifat i sicrhau safon uchel o gynnal a chadw llety, cwblhau gwaith atgyweirio mewn amser a rhoi terfyn ar ddwyn bondiau.

Yr Amgylchedd

  • Ymchwil a buddsoddiad sylweddol i ddatblygu ynni adnewyddadwy yn lle tanwydd ffosiledig ac i atal problemau darfodiad bwriadus a gwastraff heb ei ailgylchu.
  • Y diwydiannau ynni i berthyn i’r cyhoedd. Na i ynni niwcliar. Buddsoddi cyhoeddus ym mhrosiect morlyn llanw Abertawe a phrosiectau ynni llanw eraill yng Ngogledd a De Cymru.
  • Buddsoddi sylweddol i greu system trafnidiaeth gwladol sy’n rhad, hawdd i’w ddefnyddio, cynhaliadwy a chyfunedig.
  • Ail-wladoli’r rheilffyrdd. Dros gyflawni Metros Gogledd a De Cymru a thrydaneiddio llinellau Caerydd-Abertawe a’r Cymoedd.

Hawliau

  • Gwrthwynebu anffafriaeth ar sail hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, oed a phob math arall o ragfarn.
  • Diddymu pob cyfraith sy’n ymosod ar hawliau sifil. Dros yr hawl i wrthdystio. Atal yr heddlu rhag erlid pobl.
  • Amddiffyn yr hawl i erthyliad. Dros yr hawl i fenywod dewis os ydyn nhw eisiau plant a phryd.
  • Dros yr hawl i loches. Na i gyfreithiau hiliol yn erbyn mewnfudo.

 

Iaith

 

  • Hawliau cyfartal i’r iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg. Pob cwmni mawr sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd i gynnig dewis i ddefnyddio’r iaith Gymraeg.
  • Dim anffafrio gweithwyr sydd ar y dechrau yn uniaith Saesneg. Dyle ystyried dysgu Cymraeg elfennol sy’n anghenrheidiol i’r gwaith fel rhan o’u hyfforddiant yn ystod oriau gwaith.
  • Amddiffyn cymunedau Cymraeg mewn ardaloedd gwledig trwy rhaglen adeiladu tai cyngor a chreu swyddi i ganiatáu pobl i aros yn eu cymunedau lleol os ydyn nhw’n dymuno.

Brexit

  • Dim un geiniog i gael ei thalu am fil ysgariad i sybsideiddio élite cyfalafol Ewrop.
  • Diddymu’r holl ddeddfau yn erbyn undebau llafur. Dros yr hawl i weithwyr bod mewn undeb a streicio pan mae rhaid i amddiffyn eu lles eu hunain a lles gweithwyr eraill.
  • Dim rasio i’r gwaelod! Y ‘cyflog am y swydd’ i bob gweithiwr. Dros rheolaeth ddemocrataidd dros gyflogi gweithwyr newydd.
  • Dros yr haw li bob dinesydd yr UE i aros ym Mhrydain gyda hawliau llawn, ac i mynnu bod gweithwyr y DU yn cael ur un hawliau yng ngwledydd eraill yr UE.
  • Rhoi terfyn ar y rheolau tendro cystadleuol, yn cyfyngu cymorth y wladwriaeth ac yn gwrthwynebu gwladoli. Byddai hynny’n caniatáu Cynghorau i ddod a’r holl wasanaethau yn ôl i’r Cyngor. Byddai hynny’n galluogi ail-wladoli’r gwasanaethau cyhoeddus frl rheilffyrdd, ynni a dŵr i gyd. Byddai’n caniatáu’r GIG, gan daflu allan y cwmnïoedd preifat rhyngwladol sy’n gwaedu’r GIG yn wyn.

Tuag at Cymru Sosialaidd

  • Dros blaid dorfol newydd i’r dosbarth gweithiol.
  • Dros roi grymoedd deddfwriaethu a chyllid llawn i’r Cynulliad, yn cynnwys yr awdurdod i gymryd drosodd busnesau sy’n bygwth ymddiswyddo gweithwyr.
  • Gwladoli’r prif cwmnïau sy’n rheoli’r economi, o dan reolaeth y gweithwyr. Iawndal ar sail angen profedig yn unig.
  • Codi trethi ar y mwyaf cyfoethog. Llywodraeth sosialaidd i wladoli’r 150 cwmni mwyaf a’r banciau sy’n tra-arglwyddiaethu dros yr economi ym Mhrydain, a’u rhedeg nhw o dan reolaeth democrataidd y dosbarth gweithiol. Iawndal i’w daalu ar sail angen profedig yn unig.
  • Dros Gymru sosialaidd fel rhan o ffederasiwn sosialaidd yn cynnwys Cymru, Lloegr, yr Alban ac Iwerddon.
  • Na i ryfeloedd imperialaidd a goresgyniad.
  • Cynllun cynhyrchu democrataidd a sosialaidd yn seiliedig ar les y rhan helaeth o’r poblogaeth, ac sy’n diogelu’r amgylchedd.
  • Na i Undeb Ewropeaidd neo-rhyddfrydol y perchenogion. O blaid Ewrop sosialaidd a byd sosialaidd.