Home » Cymraeg » Gyngres TUC Cymru: mae sosialaidd yn herio arweinwyr ceidwadol

Gyngres TUC Cymru: mae sosialaidd yn herio arweinwyr ceidwadol

Gan Roger Butler

Aelodau o’r Blaid Sosialaidd ddaeth a rywfaint o fywyd i beth mae’n debyg oedd un o’r lleiaf a mwyaf di-ysbryd o gyngresau TUC Cymru yr wythnos diwethaf. A hynny trwy cymryd rhan yn nifer o’r dadlau a thrwy apelio am hawliau democrataidd sylfaenol – rhywbeth a gafodd croeso gan y dirprwyon.

Mynychodd naw aelod o Blaid Sosialaidd Cymru y Gyngres ddwyflynyddol yn Llandudno fel dirprwyon yn cynrychioli Cynghorau Undebau Llafur yn ogystal â Llywydd newydd USDAW ac aelod o’r Blaid Sosialaidd Amy Murphy. Roedd nifer ohonom yn dirprwyon am y tro cyntaf.

Roedd ein dirprwyon yn cynnig gweithredu i atal toriadau’r awdurdodau lleol a rhoi gwasanaethau tu allan i’r Cyngor, cap ar gyflogau’r sector cyhoeddus, tai ac iechyd meddwl, ac ail-wladoli gwasanethau’r rheilffyrdd. Cafodd rhai eu trechu ar gymeradwyarth y Cyngor Cyffredinol. Ond roedd yr ymateb o’r llawr gyda churo dwylo cyson yn dangos bod cefnogaeth sylweddol ymysg dirprwyon oedd yn anffodus wedi cael eu dwylo wedi clymu gan arweinwyr eu dirpwyaethau pan ddaeth i’r bleidlais ei hun.

Roedd cynnig USDAW ar frwydro’n erbyn cyflogau isel, scrapio contractau ‘zero hour’ a dros cyflog byw go iawn o £10 yr awry n cael ei symud gyda brwdfrydedd gan Amy Murphy a phwysleisiodd effaith niweidiol mae cyflog isel a chontractau ‘zero hour’ yn cael ar weithwyr, yn enwedig yn y diwydiant adwerthol. Roedd yn amhosib i hyd yn oed Cyngor Cyffredinol asgell dde gwrthwynebu’r cynnig a chafodd ei basio yn unfrydol.

Yn ystod y dadl ar ‘Brexit’, pwysleisiodd Mia Hollsing o Cyngor Undebau Llafur Caerdydd yr angen am ‘Brexit Sosialaidd’ yn ogystal â phwysleisio gwrthwynebiad Jeremy Corbyn i’r Arian Cyfredol Sengl neo-Rhyddrydol Ewropëaidd. Rydym o blaid Brexit go iawn y gweithwyr sy’n cade hawliau’r gweithwyr ond sy’n gwrthwynebu’r cyfyngiad presennol ar gymorth gan y wladwriaeth, sy’n gwrthwynebu’r cyfreithiau neo-Rhyddfrydol ar gaffaeliad, a sy’n gwrthwynebu’r ‘posted workers directive’ sy’n defnyddio gweithwyr o dramor i ddanseilio cyflogau ac amodau yn y DU. Os ydy’r diwydiant dur yn cae ei fygwth eto mae’n rhaid i ni cael y pwerau i wladoli, sy’n anghyfreithlon ar hyn o bryd dan rheolau’r UE! Cafodd y cynnig gan yr undeb Unite ei basio’n unfrydol.

Nid oedd yn syndod bod y cynigion ar yr argyfwng yn y GIG, gwasanaethau cymdeithasol a throiadau’r cynghorau ar yr agenda.

Soniodd sawl dirprwy am yr argyfwng yng GIG Cymru ond mae gofal cymdeithasol yn wynebu argyfwng heb ei debyg o’r blaen gyda gwariant awdurdodau lleol yn gostwng 15% dros y saith mlynedd diwethaf. Dywedwyd bod Llywodraeth Cymru yn derbyn bod argyfwng yn nhrefn presennol gofal cymdeithasol yng Nghymru, gyda Vaughan Gethin, yr Ysgrifennydd dros iechyd, yn cyfaddef nad yw’r ariannu presennol yn ‘cynnig gofal o’r ansawdd ac urddas rydyn ni i gyd eisiau’ pan mae mwy ohonom yn byw yn hŷn.

A dyna pam mae ‘Ardoll Gofal Cymdeithasol’ newydd, treth newydd i ariannu gofal cymdeithasol wedi cael ei awgrymu gan Lywodraeth Cymru fel ateb posib i’r argyfwng hwn! Ar ôl degawd o gynildeb, ar ôl with mlynedd o gyfyngiadau ar gyflogau a thoriad o 14% mewn safonau byw, mae Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Llafur yn ystyried cynigion i ychwanegu at drethi ar bobl dosbarth gweithiol yng Nghymru er mwyn ariannu trefn gofal cymdeithasol sydd wedi cael miliynau wedi dwyn gan lywodraethau’r Con/Dems a’r Torïaid! Mae amcangyfrif effaith y dreth newydd hon ar weithwyr Cymru dros £300 y flwyddyn yn y lle cyntaf. Dywedodd ein dirprwyon yn lle cynllunio sut i gael mwy gan weithwyr Cymru, dyle Llywodraeth Cymru gyda Chynghorau Cymru a TUC Cymru trefnu ac ymgyrchu i gael yr arian hynny yn ôl o’r Torïaid. Clywodd dirprwyon bod Mark Drakeford, Ysgrifennyd Cyllid Cymru, wedi cael trafodaethau cynnar gyda’r Prif Ysgrifennyd i’r Trysorlys ynglŷn â dod â’r dreth newydd hon i Gymru. A wyddoch chi beth? Mae ganddi hi ddiddordeb mewn cael cymru i wneud y gwaith arbrofol gan fod ariannu gofal cymdeithasol yn pwnc anodd i bob lywodraeth! Yn gywilyddus, cafodd ein gwrthwynebiad i’r ardoll gofal cymdeithasol newydd ei bleidleisio i lawr gan y Gyngres.

Yn yr un modd collwyd ein cynnig yn galw ar TUC Cymru i drefnu cynhadledd yn erbyn toriadau i weithredu’r polisi, sydd eisoes wedi cael ei gytuno, bod Cynghorau Cymru sy’n erbyn cynildeb yn cyflawni cyllidebau dim toriadau.

Ar y diwrnod pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n rhoi rhyddfraint £5bn Cymru a’r Gororau i KeolisAmey (gweler yr erthygl ar wahan) roedd y Cyngor Cyffredinol yn gwrthwynebu cynnig Cyngor Undebau Llafur Caerdydd i gweud y rhyddfraint yn rheilffordd dim er elw ac i ddod â’r holl wasnaethau rheilffordd a thraciau sydd wedi cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru yn ô li berchenogaeth gyhoeddus. Roedd yn warth mwy bod yr aelod o’r Cyngor Cyffrdinol oedd yn gwrthwynebu’r cynnig oedd yn dirprwy’r RMT yn defnyddio’r esgus nad oedd gan Lywodraeth Cymru y pwerau cyfreithiol i’w gyflawni!

Oherwydd y lefel cyfyngedig o drafodaeth a’r ceisiadau biwrocrataidd i atal siaradwyr gwrthbleidiol rhag cael yr haw li ymateb i’r Cyngor Cyffredinol, death y Gyngres tri diwrnod i ben dros ddwy awr yn gynnar!

Daeth cymeradwyaeth mwyaf y tri diwrnod pan brotestiodd Alec Thraves, dirprwy Cyngor Undebau Llafur Abertawe, yn erbyn y Cyngor Cyffredinol yn gofyn trwy’r amser i’n dirprwyon cymryd cynigion yn ôl i’r Cyngor Cyffredinol edrych arnyn nhw (remit) a hynny heb ganiatáu i’r cynigwyr cael yr hawl i ymateb. Protestiodd Alec mae mater o ddemocratiaeth sylfaenol i gallu ymateb i feirniadaeth a chamlywio llwyr. Roedd hyn yn taro tant gyda’r dirprwyon cyffredin a fydd yn gofyn am newidiadau i’r rheolau i atal rhwystrau biwrocrataidd o’r fath digydd yng Nghyngresau’r dyfodol.

Fel un oedd yn mynychu’r Gyngres am y tro cyntaf rwy’n cytuno â sylw un o’r dirpwyon a dywedodd bod siaradwyr y Blaid Sosialaidd ‘yn ddi-ofn’ wrth wynebu Cyngor Cyffredinol asgell dde.