Tudalennu Cymraeg

Gwrthdystiad Cenedlaethol y TUC

Gan Owen Rogers, Plaid Sosialaidd Abertawe

Mae Sosialwyr Abertawe wedi dychwelyd o Wrthdystiad Cenedlaethol y TUC yn Llundain wedi eu cryfhau.

Aeth aelodau cangen Abertawe ar fysiau wedi eu trefnu gan yr undebau llafur ac roedd y teithwyr ar fws Unite mewn hwyliau da ac yn edrych ymlaen yn frwd ir brotest. Pan gyrhaeddon ni daeth yn amlwg yn fuan bod y brotest yn un enfawr.

Roedd y gorymdeithwyr yn awyddus i gymryd taflen y Blaidd Sosialaidd dros gael streic 24 awr gan y sector cyhoeddus, diolch iw neges glir i wrthsefyll pob toriad ac ir undebau sector cyhoeddus cyd-drefnu streic un diwrnod i ddechrau.

Gwnaethon ni dosbarthur taflenni wrth gatiau Hyde Park am ddros awr ac roedd y gorymdeithwyr diwethaf ddim wedi cychwyn.

Roedd amser i ni mynychu rali Rhwydwaith Cenedlaethol y Stiwardiaid Siop (NSSN) yn Speakers Corner a chlywed areithiau tanbaid gan ysgrifennydd yr NSSN Linda Taaffe ar cynullydd yn erbyn y toriadau Rob Williams.

Roedd y teithwyr mewn hwyliau da ar y siwrnai yn ?l ac yn frwdfrydig a phenderfynol. Maer ffaith bod 500,000 o bobl wedi gorymdeithio heb ir TUC mynd ati o ddifrif yn dangos y potensial i drefnu gwrthwynebiad ir toriadau.

Roedd Louise o Gaerdydd ar ei phrotest fawr gyntaf a dywedodd ei bod wedi rhoi hwb iddi cario ymlaen i ymgyrchu.

Roeddwn in synnu i weld cyn gymaint o bobl yna. Pan roedden nin gadael roedden nhwn dal i ddod i mewn! meddai hi.

Dywedodd Alec o Abertawe: Hon oedd y brotest fwyaf ers y brotest yn erbyn y rhyfel yn Irac. Roedd lot o grwpiau gwahanol, fel y gweithwyr iechyd a gweithwyr llywodraeth leol, a phrotestwyr o bob oedran.

Cafodd galwad y Blaid Sosialaidd am streic 24 awr yn y sector cyhoeddus ymateb da iawn. Roedd y neges yr un cywir.

Amdanon ni

Plaid Sosialaidd Cymru

Plaid Sosialaidd Cymru yw blaid gymreig Plaid Sosialaidd Lloegr a Chymru.

Mae gennym hanes hir ac anrhydeddus o frwydro ochr yn ochr phobl dosbarth gweithiol i amddiffyn ein gwasanaethau, ein cyflogau a'n safon byw. Rydym yn cymryd rhan mewn llawer o ymgyrchoedd ar draws Cymru.

Rydym yn gwrthwynebu'n llwyr pasio'r toriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus ymlaen i bobl dosbarth gweithiol ym Mhrydain a gweddill Ewrop i dalu am argyfwng presennol cyfalafiaeth a achoswyd gan drachwant y bancwyr a'r cyfoethogion. Rydym yn cefnogi ymgyrch dorfol i wrthwynebu'r toriadau yn cynnwys gweithwyr yn y sector cyhoeddus, defnyddwyr y gwasanaethau, myfyrwyr a phawb yn ein cymdeithas sy'n teimlo'r effeithiau.

Rydym yn cefnogi ymgyrch y myfyrywyr i wrthwynebu codi ffioedd dysgu'r prifysgolion a'r toriadau mewn addysg ac i adfer y Lwfans Cynnal Addysg ar draws Brydain i gyd.

Rydym yn cefnogi gweithwyr sy'n gweithredu'n ddiwydiannol. Mae aelodau Plaid Sosialaidd Cymru wedi cymryd rhan blaenllaw mewn anghydfodau pwysig, megis yr anghydfod yn ffatri darnau ceir Linamar yn Abertawe ac yn y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru.

Rydym yn ymgyrchu yn erbyn ffioedd addysg ac yn erbyn preifateiddio'n gwasanaethau. Rydym yn ymgyrchu dros gyflogau gwell, i roi terfyn ar werthu tai cyngor a thros addysg rhad ac am ddim.

Fe wnaethon ni ymgyrchu yn erbyn rhyfel a goresgyniad Irac ac Afghanistan a thros byd sosialaidd yn rhydd o ryfel a therfysg.

Rydym yn ymgyrchu i roi terfyn ar ddinistrio a llygru'n blaned a'i hamgylchedd.

Rydym yn ymgyrchu am bleidlais 'Ie' dros fwy o bwerau i Gynulliad Cymru i alluogi dosbarth gweithiol Cymru i bwyso'n gryfach i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus. Ond rydym hefyd yn ymgyrchu dros blaid newydd ddosbarth gweithiol sy'n cynnig dewis arall i'r bedair blaid gyfalafol yn y Cynulliad. Plaid a fydd yn wrthsefyll yr ymosodiadau ar wasanaethau gan y bedair brif blaid ac yn dangos y ffordd i newid sosalaidd yng Nghymru, Prydain ac ym mhellach draw.

Dyma pam rydym yn cymryd rhan yn y Glymblaid Undebwyr Llafur a Sosialwyr (TUSC), a ffurfiwyd yn 2010, yn ymyl aelodau blaenllaw'r undebau RMT, POA a PCS i sefyll dros berchenogaeth gyhoeddus yn hytrach na thoriadau a phreifiateiddio; swyddi yn hytrach na rhoddion i'r bancwyr; i ddiddymu'r cyfreithiau yn erbyn yr undebau, i amddiffyn yr amgylchedd, dros pensiynau teg a iawnderau democrataidd.

Mae TUSC yn galw am ddod a'r milwyr adref o Afghanistan yn syth a thros gymdeithas sosialaidd sy'n cael ei rhedeg er lles y bobl ac nid er lles y miliynwyr.

Mae pob un o'n cynrychiolwyr cyhoeddus megis aelodau seneddol a chynghorwyr yn derbyn dim ond cyflog gweithiwr cyffredin ac yn rhoi gweddill y cyflogau a'r treuliau yn l i'r gweithwyr ac i'r mudiad sosialaidd.

Fel y Militant Tendency yn y 1980au a'r 1990au roedden ni'n ymgyrchu i ddychwelyd y Blaid Lafur i'w gwreiddau sosialaidd ac roedden ni'n gwrthwynebu ffurfio Llafur Newydd. Ni arweiniodd brwydr Cyngor Dinas Lerpwl dros tai boddhaol, swyddi a gwasanaethau, ac yn hwyrach, ni drechodd Treth y Pen Margaret Thatcher a'i gorfodi i ymddiswyddo.

Mae'r Blaid Sosialaidd yn gysylltiedig 'r Pwyllgor dros Gymdeithas Gydwladol i'r Gweithwyr (Committee for a Workers' International). Mae gennym cynghorwyr etholedig mewn lleoedd megis Awstralia, Iwerddon, yr Almaen, Sri Lanka a Sweden.

Roedd Joe Higgins yn Aelod Seneddol yn Iwerddon, lle roedd yn cael ei adnabod fel yr unig dyn gonest yn y Senedd. Mae o nawr yn Aelod Seneddol Ewropeaidd dros Blaid Sosialaidd Iwerddon ar l cael ei ethol yn 2009. Mae Joe wastad wedi cymryd dim ond cyflog gweithiwr medrus cyffredin ei etholaeth, gan roi'r gweddill i ariannu ymgyrchoedd y dosbarth gweithiol.

Mae gan adran y CWI yn yr Almaen chwe chynghorydd, tra mae Lucy Redler wedi dod ir blaen yn y wlad trwy helpu i arwain ymgyrch yn erbyn y toriadau ym Merlin. Mae gan blaid y CWI yn Sweden wyth gynghorydd.

Mae gan y Blaid Sosialaidd dros 20 o aelodau wedi eu hethol i bwyllgorau gwaith genedlaethol y prif undebau llafur.

Pleidlesiwch Ie

Amddiffynwch gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Mae Plaid Sosialaidd Cymru'n galw am bleidlais Ie yn y refferendwm ar gael mwy o rymoedd i'r Cynulliad ar Fawrth 3.

Mae'r Blaid Sosialaidd (a'i rhagflaenydd y Militant Tendency) wastad wedi galw am Senedd i Gymru gyda grymoedd deddfwriaethol llawn. Mae'n gwelliant democrataidd sylfaenol ac yn rhywbeth gallai pobl dosbarth gweithiol Cymru defnyddio i ymladd dros newid cymdeithas a thros sosialaeth. Gall y dosbarth gweithiol pwyso'r Cynulliad i amddiffyn swyddi a gwasanaethau ac hefyd i ganiatu dewis arall sosialaidd i ddatblygu yng Nghymru.

Mae'r dosbarth gweithiol yng Nghymru eisioes wedi ennill consesiynau pwysig o'i gymharu a Lloegr. Mae'r cymorthdal mae'r Cynulliad yn rhoi i fyfyrwyr sy'n byw yng Nghymru wedi lleihau effaith y ffioedd dysgu sydd wedi eu cyflwyno gan Lafur Newyd a'u treblu gan y llwywodraethau Llafur Newydd a Con Dem. Mae'r preifateiddio o iechyd a'r hanner preifateiddio o addysg yn Lloegr trwy ysbytai gwaddoledig, consortia meddygon teulu, ac academau wedi eu gwrthsefyll hyd yn hyn ac mae'r gwastraff enfawr o forgeisio asedau cyhoeddus trwy'r PFI wedi ei leihau.

Byddai grymoedd ychwanegool i'r Cynulliad yn atal llywodraeth San Steffan a Mandarins y Weinyddiaeth rhag rhwystro neu arafu penderfyniadau'r Cynulliad ac yn caniatu'r Cynulliad i ddeddfu yng Nghymru .

Ond dydy cefnogi pleidlais Ie ddim yn golygu cefnogi'r bedair brif blaid yn yr Ymgyrch Ie. Mae angen plaid newydd i frwydro ar ran pobl dosbarth gweithiol yng Nghymru - plaid sy'n gallu cynnig dewis arall yn y Cynulliad.

Mae gwleidyddion pob blaid yn y Cynulliad - sydd ar gyflogau uchel - wedi ymuno Ymgyrch Ie Dros Cymru o dan arweinyddiaeth Roger Lewis, prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru. Mae hyd yn oed y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, sydd eisiau tynnu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn rhacs, yn cefnogi pleidlais Ie. Mae nhw i gyd eisiau mwy grym i ganiatu'r Cynulliad i lywodraethu Cymru mewn ffordd 'mwy effeithlon'. Ond i weithwyr Cymru, gwleidyddion y Cynulliad yw'r problem. Mae'n nhw'n gweithio'n cyffyrddus yn y Senedd ymhell o fywydau pobl cyffredin - yn union fel gwleidyddion San Steffan.

Mae aelodau'r Cynulliad wedi rhoi cyglogau hael a threuliau iddyn nhw eu hunaain tra mae'r holl pleidiau yn cytuno fod 'rhaid torri rhywfaint' ar wasanaethau cyhoeddus i dalu am yr argyfwng a achoswyd gan y banciau. Mi ddaru un aelod o'r Cynulliad hawlio 12,000 y flwyddynam ail gartref er iddo byw wrth ymyl Penybont-ar-Ogwr, rhyw 24 milltir o'r Cynulliad. Sut gallai'r gwleidyddion hyn deal sefyllfa gweithwyr sy'n wynebu toriadau cyflog neu sefyllfa gweithwyr Cynghorau Castell Nedd a Phort Talbot a Rhondda Cynon Taf sy'n wynebu colli eu swyddi?

Nid y glymblaid Llafur/Plaid Cymru ddechreueodd y toriadau presennol, ond nid yw'n dderbyniol i basio ymlaen toriadau'r Con Dems gyda ystum o ymostyngiad. Mae ymgyrch i wrthsefyll y toriadau yn anghenrheidiol. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymateb i brotestiadau'r myfyrwyr yn erbyn y toriadau trwy addo sicrhau na fydd ffoedd myfyrwyr yng Nghymru yn cael eu coddi a thrwy cadw'r Lwfans Cynnal Addysg (EMA) yng Nghymru. Ond mae'n bendefynol o gyflawni toriadau enfawr drwy orchymyn y Con Dems yn San Steffan.

Mae llywodraeth y glymblaid yng Nghymru wedi cytuno i basio ymlan y toriadau Con Dem trwy cwtogi 1 biliwn o'r cyllideb eleni ac y llynedd. Yn ?l undeb y gweision sifil y PCS mae 30,000 o swyddi dan bygythiad oherwydd toriadau Llywodraeth y Cynulliad. Mae cyrsiau prifysgol yn cael eu torri ac mae prifysgolion yn cael eu cyfuno gyda llawer o swyddi'n mynd.

Yn ?l Comisiwn Holtham dylai gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru cael 300 miliwn yn ychwanegol. Mae Cymru wedi dioddef yn waeth na neb dan lach polisiau neoliberal llywodraethau Tori a Llafur Newydd yn San Steffan sydd wedi mwy neu lai dad-ddiwydiannu economi Prydain a chreu bwlch cymdeithasol rhwng y cyfoethog a'r tlawd. Mae economi Cymru wedi syrthio yn bellach a phellach yn ?l gyda diwydiant cynhyrchu yn cau a diwydiant gwasanaeth a'r sector cyhoeddus ond yn cymryd ei le yn rhannol.

Mae angen gweithredu radicalaidd gan dosbarth gweithiol Cymru i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus sydd eioes yn wan. Mae angen cysylltu gweithredu yng Nghymru gweithredu gan gweithwyr hyd a lled Prydain sydd yn gwrthsefyll toriadau Llywodraeth y Glymblaid.

Mae Plaid Sosialaidd Cymru yn dweud bod rhaid i'r Cynulliad defnyddio'u grymoedd newydd i frwydro yn erbyn y toriadau yn hytrach na pasio toriadau'r Con Dems ymlaen yn fwy effeithlon trwy'r Senedd. Rydym yn dadlau dyle Llywodraeth y Cynulliad cynnig Cyllideb sy'n seiliedig ar anghenion gweithwyr yng Nghymru - a defnyddio'u cronfeydd neilltuedig i osgoi toriadau yn y dyfodol agos. Dyle cychwyn ymgyrch torfol o brotestiadau, streiciau ac anufudd-dod sifil i fynnu cael yn ?l yr holl arian sydd wedi ei golli o dan llywodraethau yn dilyn ei gilydd oherwydd fformiwla anheg Barnett. Mae'r Fformiwla yn methu ystyried anghenion cymdeithas Cymru wrth ariannu gwasanaethau yng Nghymru.

Byddai Llywodraeth sosialaidd yn y Cynulliad yn cyflwyno rhaglen uchelgeisiol i amddiffyn economi Cymru trwy defnydio'u grymoedd newydd i wladoli cwmnau sy'n bygwth ymddiswyddiadau, ac i wladoli'r gwasanaethau fel dwr, trydan a nwy a'r gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi eu preifateiddio. Byddai'r rhaglen yn cyflwyno polisiau economaidd sosialaidd i greu gwaith i'r pobl trwy rhaglen uchelgeisiol o waith cyhoeddus defnyddiol a thrwy buddsoddi cyhoeddus i ddatblygu diwyddiannau 'gwyrdd' ac uwch-dechnolegol sydd wedi eu gwladoli' ac sy'n defnyddio sgiliau ac ymrwymiad gweithwyr Cymru.

Byddai'r llywodraeth Con Dem yn Llundain a byd masnach yng Nghymru ac hyd a lled Prydain yn ymateb yn ffyrnig i bolisi o wrthsefyll y toriadau a chyflawni polisau sosialaidd. Byddai angen ymgyrch torfol o anufudd-dod sifil, protestiadau a streiciau cyffredinol yng Nghymru ynghlwm ac ymgyrchoedd o'r un fath yng ngweddill Prydain i ennill y diwygiadau hyn ac i ddechrau newid cymdeithas Cymru. Nid y dewis hawdd o gyflawni'r toriadau Con Dem, ond i bobl dosbarth gweithiol sy'n wynebu colli eu gwaith, cyflogau'n disgyn, collie u tai a phrisiau'n codi does dim dewis hawdd.

Mae Plaid Sosialaidd Cymru'n cefnogi Cymru sosialaidd fel rhan o ffederasiwn sosialaidd yn cynnwys Cymru, Lloegr, yr Alban ac Iwerddon.

Rydym yn Sefyll Dros

Ymladd y toriadau

  • Na i bob toriad mewn swyddi a gwasanaethau.
  • Dros ymgyrch torfol o weithredu diwydiannol ac anuffudd-dod sifil yn erbyn toriadaur ConDems. Dros sefydlu pwyllgorau lleol yn erbyn y toriadau.
  • Dros arweinwyr undeb bydd yn gwrthsefyll y toriadau.
  • Y Cynulliad ar cynghorau i wrthod gweithredur toriadau ConDem ac i gynull ymgyrch torfol i herior Llywodraeth ConDem ac i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus. Mynnu cael yn ?l y 300m ychwanegol dyle Cymru cael gan y Llywodraeth.
  • Codi trethi ar y mwyaf cyfoethog. Cael yn ?l y 123bn maer wlad yn colli pob blwyddyn achos efadu ac osgoi trethi.
  • Peidio sybsideiddior banciau a thaliadau bonws ir bancwyr. Gwladolir banciau ar tai cyllid.

Gwaith ac Incwm

  • Ymgyrchu gan yr undebau llafur i godir lleiafswm cyflog i 8 yn ddieithriad fel cam cyntaf tuag at 10 yr awr. Dros godir lleiafswm cyflog pob blwyddyn yn dilyn enilllion ar gyfartaledd.
  • Pob gweithiwr, yn cynnwys gweithwyr rhan amser, gweithwyr dros dro, gweithwyr ysbeidiol a gweithwyr o dramor, i gael cyfraddau cyflog wedi eu cytuno gan yr undebau llafur, hawliau yn y gwaith, a hawliau or diwrnod cyntaf i gyflog pan maen nhwn sal ac i gael gwyliau.
  • Codi pensiwn ymddeol y gwladwriaeth 50% yn syth, fel cam tuag at bensiwn digonol. Ailsefydlur cyswllt rhwng pensiynau ag enillion ar gyfartaledd neu chwyddiant, pa un bynnag sydd uwch.
  • Gwrthwynebu toriadau i fudd-daliadau. Dros yr hawl i gael budd-daliadau digonol, addysg, hyfforddiant, neu swydd, heb orfodaeth.
  • Diddymur cyfreithiau gwrth-undeb. Dros undebau llafur syn brwydro ac syn cael eu rheoli yn ddemocrataidd gan yr aelodau. Swyddogion llawn amser i gael eu hethol yn rheolaidd ac i gael cyflog gweithiwr cyffredin.
  • Dros yr hawl ir Cynulliad gwladoli busnesau syn bygwth ymddiswyddiadau, gyda iawndal ond mewn achosion o angen profedig.
  • Dim mwy na 35 awr o waith yr wythnos, heb golli cyflog.
  • Gwladolir ffermydd anferthol ar perchnogion tir mawr. Dros sicrwydd daliadaeth tymor hir i denantiaid fferm. Gwladolir adwerthwyr mawr i sicrhau pris teg i ffermwyr am eu cynnyrch, a benthyg arian iddynt heb log.

Gwasanaethau Cyhoeddus

  • Gwrthwynebu preifateiddio ar Fenter Cyllid Preifat (PFI). Ail-wladoli pob gwasanaeth sydd wedi ei breifateiddio, gan dalu iawndal ond mewn achosion o angen profedig.
  • Ariannu pob gwasanaeth yn llawn a sefydlu pwyllgorau atebol a democrataidd yn cynnwys cynrychiolwyr y gweithwyr a defnyddwyr y gwasanaethau iw rheoli.
  • Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol sosialaidd i ofalu am anghenion iechyd pawb yn rhad ac am dim pan mae angen defnyddior gwasanaeth ac o dan reolaeth democrataidd. Cicior contractwyr preifat allan.
  • Cadw tai cyngor yn y sector cyhoeddus. Dros rhaglen anferthol i adeiladu tai cyhoeddus, ar sylfaen amgylcheddol gynhaliadwy, i ddarparu tai o safon uchel gyda rhenti fforddiadwy.

Addysg

  • Addysg rhad ac am ddim, o safon uchel, yn y sector cyhoeddus, ac ar gael i bobl o unrhyw oed. Diddymu ffoedd addysg y prifysgolion a sefydlu grant digonol.
  • Rhoir hawl i ddisgyblion i ddewis un ai addysg Cymraeg neu Saesneg mewn ysgol agos gyda dosbarthiadau o ddim mwy na 20.
  • Gwrthwynebu rhaglen y Cynulliad i gau ysgolion a cholli swyddi gan ddefnyddior cwymp yn niferoedd disgyblion i greu dosbarthiadau llai.
  • Dim ysgol i gau heb gytundeb y cymunedau lleol.
  • Adeiladu ysgolion Cymraeg newydd pan mae angen. Peidio chau ysgolion cymunedol. Dros ysgolion lleol yn y cymuned yn cael eu rhedeg gan byrddau ysgol etholedig.

Yr Amgylchedd

  • Ymchwil a buddsoddiad sylweddol i ddatblygu ynni adnewyddadwy yn lle tanwydd ffosiledig ac i atal problemau darfodiad bwriadus a gwastraff heb ei ailgylchu.
  • Y diwydiannau ynni i berthyn ir cyhoedd. Na i ynni niwcliar. Na i Trident.
  • Buddsoddi sylweddol i greu system trafnidiaeth gwladol syn rhad, hawdd iw ddefnyddio, cynhaliadwy a chyfunedig.

Hawliau

  • Gwrthwynebu anffafriaeth ar sail hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, oed a phob math arall o ragfarn.
  • Diddymu pob cyfraith syn ymosod ar hawliau sifil. Dros yr hawl i wrthdystio. Atal yr heddlu rhag erlid pobl.
  • Amddiffyn yr hwl i erthyliad. Dros yr hwl i fenywod dewis os ydyn nhw eisiau plant a phryd.
  • Dros yr hawl i loches. Na i gyfreithiau hiliol yn erbyn mewnfudo.

Iaith

  • Hawliau cyfartal ir iaith Gymraeg ar iaith Saesneg. Pob cwmni mawr syn darparu gwasanaethau ir cyhoedd i gynnig dewis i ddefnyddior iaith Gymraeg.
  • Dim anffafrio gweithwyr sydd ar y dechrau yn uniaith Saesneg. Dyle ystyried dysgu Cymraeg elfennol syn anghenrheidiol ir gwaith fel rhan ou hyfforddiant yn ystod oriau gwaith.
  • Amddiffyn cymunedau Cymraeg mewn ardaloedd gwledig trwy rhaglen adeiladu tai cyngor a chreu swyddi i ganiatu pobl i aros yn eu cymunedau lleol os ydyn nhwn dymuno.

Tuag at Cymru Sosialaidd

  • Dros blaid dorfol newydd ir dosbarth gweithiol.
  • Dros bleidlais Ie yn y refferendwm ar rym y Cynulliad ar Fawrth 3ydd. Dros roi grymoedd deddfwriaethu a chyllid llawn ir Cynulliad, yn cynnwys yr awdurdod i gymryd drosodd busnesau syn bygwth ymddiswyddo gweithwyr.
  • Gwladolir prif cwmnau syn rheolir economi, o dan reolaeth y gweithwyr. Iawndal ar sail angen profedig yn unig.
  • Codi trethi ar y mwyaf cyfoethog. Llywodraeth sosialaidd i wladolir 150 cwmni mwyaf ar banciau syn tra-arglwyddiaethu ar yr economi prydain, au rhedeg nhw o dan reolaeth democrataidd y dosbarth gweithiol. Iawndal iw daalu ar sail angen profedig yn unig.
  • Dros Gymru sosialaidd fel rhan o ffederasiwn sosialaidd yn cynnwys Cymru, Lloegr, yr Alban ac Iwerddon.
  • Na i ryfeloedd imperialaidd a goresgyniad. Tynnur milwyr yn ?l o Irac ac Afghanistan.
  • Cynllun cynhyrchu democrataidd a sosialaidd yn seiliedig ar les y rhan helaeth or poblogaeth, ac syn diogelur amgylchedd.
  • Na i Undeb Ewropeaidd neo-rhyddfrydol y perchenogion. O blaid Ewrop sosialaidd a byd sosialaidd.
Socialist Party Wales 2017
Join Us