|
Ar
y Lein- Stori Gweithwyr 'Friction Dynamics'
|
||||||||
| Adolygiad gan Kate Jones(Powys) | ||||||||
|
Stori ysbrydol gweithwyr y ffatri Friction Dynamics, Caernarfon, yw'r llyfr hwn. Ym mis Chwefror 2001, wnaeth 90% o'r gweithwyr - aelodau'r T&G - bleidleisio dros streic yn erbyn newid sylfaenol yn eu hamodau gwaith. Cafodd y gweithwyr eu cloi mas gan reolwyr y ffatri, oedd yn recriwtio gweithwyr newydd i dorri'r streic. Dros bron 3 blynedd nesaf,
brwydrodd y streicwyr yn ffyrnig yn erbyn eu boss Americanaidd, dros hawliau
aelodaeth eu hundeb llafur ac i gael cyflogau ac amodau rhesymol. Cafodd y
streicwyr eu cefnogi gan bobl Caernarfon a chymunedau ym mhob rhan o Gymru
- o aelodau T&G ac undebau eraill i fand roc Y Super Furries. Daeth gweithwyr
marchnad Covent Garden â ffrwythau, llysiau a chig ar gyfer Nadolig. Daeth
cefnogaeth o ganghennau undebau llafur ym Mhrydain, America, Canada, Ewrop
ac Awstralia. Roedd Craig Smith, rheolwr y cwmni, yn credu roedd e'n hollbwerus;
gall e wneud unrhywbeth yr hoffai e, gyda'i gwmni ef, ei ffatri, ei weithwyr.
Roedd e'n credu gall e ddiystyru hawliau undebau llafur, hawliau dynol y gweithwyr,
dyfarniad tribiwnlys a barn gyhoeddus - yma yng Nghymru a ledled y byd. Cymry Cymraeg y mae rhan fwyaf o'r streicwyr, ac yn y Gymraeg mae'r llyfr yn adrodd eu stori - mae hyn yn wers bwysig i ni fel Sosialwyr yng Nghymru. |
||||||||