Nid oes bradwr yn y ty hwn (No traitor in this house)
Streiciau Enfawr Chwareli’r Gogledd
Iain Dalton (Bangor Socialist Party) trans Gareth.

Home/Hafan

Pan fydd pobl yn meddwl am ganolfannau milwriaethus y dosbarth gweithiol yng Ngwledydd Prydain efallai na fydd Gwynedd yn dod i frig y rhestr. Ond dyma ble y bu i un o anghydfodau mwyaf chwerw'r dosbarth gweithiol ym Mhrydain gymryd lle, gyda chyfres o streiciau a chloi drysau ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, gan arwain at streic tair blynedd a fu’n frwydr mor galed a milain ag unrhyw un yn hanes y dosbarth gweithiol.

Yng Ngwynedd chwarelu a chloddio am lechi oedd prif waith cyflogedig y cyfnod – yn wir nid yn unig y diwydiant hwn oedd y prif gyflogwr ond yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yn cynhyrchu 90% o lechi Prydain.

Yn ôl i'r
ddewislen
Hanes

Poster ffenester gwreiddiol o Fethesda

I roi argraff o’r amodau roedd y gweithwyr yn gorfod eu dioddef, ym Mlaenau Ffestiniog yn 1875, dim ond 37 mlwydd oed oedd hyd bywyd disgwyliedig rhywun oedd yn gweithio yn y chwarel tra’i fod yn 67 mlwydd oed i’r rheiny nad oeddynt yn gweithio yno! Ond roedd chwarela yn alwedigaeth â lefel uchel o sgil, yn cymryd blynyddoedd lawer i’w ddysgu ac yn waith a roddai gryn ddylanwad i’r dynion ynghylch sut yr oeddynt yn gweithio yn y chwarel.

Mudiad y Gweithwyr

Roedd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru, sef y mudiad gweithwyr a gymerodd ran yn yr ymafael hwn, wedi cael ei sefydlu yn 1874 ac fe ddaeth dan ymosodiad gan y cyflogwyr ar unwaith, gyda gweithwyr mewn un chwarel ar ôl y llall yn cael eu gorfodi i ddewis rhwng cael eu diarddel o’r undeb neu golli’u swyddi. Fe arweiniodd hyn at gloi drysau yn nau o’r chwareli mwyaf, Dinorwig a Bethesda - oedd ym mherchnogaeth y landlordiaid-cyfalafwyr Assehton-Smith a’r Arglwydd Penrhyn - y naill wedi dod yn gyfoethog ar gefn y fasnach gotwm yn Swydd Gaerhirfryn a’r llall drwy fasnach gaethweision yr Iwerydd. Roedd y ddwy chwarel yn cyflogi oddeutu 2000 o weithwyr yr un (i roi syniad o’u maint cymharol, 7,196 oedd aelodaeth lawn yr undeb yn eu cynhadledd y flwyddyn ganlynol). Fe barodd y cloi drysau yn chwarel Dinorwig am bum wythnos, ond roedd yr anghydfod yn fwy ffyrnig ym Methesda ble y bu i’r dynion, ar ôl cael eu bygwth, lunio rhestr o alwadau ac ennill - gan weld cynnydd mewn cyflogau a disodli rheolwyr y chwarel. Cawsant hwb o’r fuddugoliaeth hon ac fe lwyddodd yr undeb i ennill codiadau cyflog a gostyngiad mewn oriau gwaith dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Fodd bynnag, fe wynebodd yr undeb ei brawf mawr cyntaf yn 1878/9 pan ddisgwylid i ddirwasgiad economaidd effeithio ar y galw am lechi. Nid o rengoedd y gweithwyr y deuai arweinwyr yr undeb, ond yn hytrach roeddynt yn bennaf yn bobl leol a gefnogai’r undeb ac a allai gynorthwyo i’w ariannu. Eu syniad nhw o undeb oedd grwp pwysau wedi’i drefnu, ac roeddynt yn gysylltiedig â’r blaid Ryddfrydol; roedd prif ffigwr y blaid honno ar y pryd, David Lloyd George, hefyd yn un o arweinyddion y grwp cenedlaetholgar radical Cymru Fydd oedd yn ceisio uno’r genedl Gymreig, beth bynnag eu gwahaniaethau dosbarth, yn erbyn y Saeson. (Yn dilyn methiant y mudiad, symudodd Lloyd George i brif lif gwleidyddiaeth Saesneg, gan ddod yn Brif Weinidog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf). Roedd y fersiwn o undeb yr ymgeisiai’r dynion dosbarth canol hyn tuag ato yn un oedd yn seiliedig ar ‘ymlyniad llym at reolau’r economi farchnad’. Yn sgìl yr ymlyniad hwn roeddynt yn barod i dderbyn toriadau cyflog gan ddisgwyl y byddai’r rheiny’n cael eu gwrthdroi pan ddeuai’r hyn yr oeddynt yn ei ystyried yn ddirywiad dros dro yn yr economi i ben. Ond yn lle hynny fe fyddai’r dirywiad yn troi’n ddirwasgiad ac ni fyddai’r cyflogau’n cael eu cynyddu’n ôl, sy’n rhybudd wrth gwrs i’r undebau hynny sy’n proffesu pwysigrwydd ‘partneriaeth’ heddiw.

Parhaodd yr un grwp o arweinwyr fodd bynnag i reoli’r undeb am tua ugain mlynedd yn dilyn hyn ond yn y pendraw arweiniodd sawl gorchfygiad at alwad i’r chwarelwyr gael arwain eu hundeb eu hunain. Y cyntaf o’r rhain oedd Cloi Drysau Dinorwig yn 1885-86 pan gafwyd ymosodiad pellach gan y rheolwyr yn wyneb dirwasgiad oedd wedi taro’r diwydiant ar ddiwedd y ddegawd flaenorol ac a arweiniodd at doriadau cyflog a diswyddiadau, gyda’r rheolwyr yn cloi’r gweithwyr allan nes iddyn nhw dderbyn yr amodau newydd. Er gwaethaf ceisio ailagor y chwarel amryw o weithiau heb i unrhyw un o’r dynion oedd wedi’u cloi allan ddychwelyd, fe lwyddodd y rheolwyr i ennill buddugoliaeth ar ôl i’r undeb redeg allan o gyllid a gorfod atal talu arian cloi drysau. Fe arweiniodd y gorchfygiad yma at greu’r argraff nad oedd arweinwyr yr undeb wedi bod yn driw i fuddiannau’r gweithwyr a’u bod wedi cael eu harwain at gytundeb gwael.

Yr ail ddigwyddiad oedd hawliad am godiad cyflog ledled chwareli Gwynedd at 5 swllt y diwrnod yn 1892. Enillodd pleidlais dros streic o 5,781 i 1,534 ond fe gymerodd yr arweinyddiaeth gamau gwag a cholli’r foment ynghyd â hyder y dynion ac fe enciliodd y gefnogaeth iddynt. Ond ei diwedd hi i’r hen arweinyddiaeth fu’r Cloi Drysau cyntaf yn Chwarel y Penrhyn yn 1896-97. Roedd yr undeb yn lleol wedi bod yn gryf iawn o blaid hawliad cyflog unedig yn gynt yn y ddegawd ond fe gawsant eu ffrwyno gan yr arweinyddiaeth.

Y Cloi Drysau Cyntaf

Fe ddigwyddodd yr anghydfod dros y ffaith fod y dynion eisiau gwyliau i gael mynychu gwrthdystiad Gwyl Lafur ym Mlaenau Ffestiniog. Ar ôl iddynt gael gwrthod gwyliau, fe arhosodd 2,500 ohonynt o’r gwaith ac fe gawsant eu diarddel o ganlyniad am ddeuddydd. Yn dilyn yr ymosodiad hwn ar eu hamodau gwaith (roedd y dynion yn disgwyl gallu cymryd diwrnodau i ffwrdd fel y mynnent) fe wnaethant lunio galwadau oedd yn cynnwys hynny ynghyd â chynnydd mewn cyflog, a wrthodwyd gan y rheolwyr gyda chydsyniad yr Arglwydd Penrhyn. Er i’r chwarelwyr gytuno i streicio ym mis Mawrth (pan fyddai’r diwydiant llechi’n brysurach ac y byddai cyflogaeth amgen ar ffermydd ar gael) fe’u cythruddwyd gan y rheolwyr, yn sgìl diswyddo 74 o’r aelodau undeb mwyaf milwriaethus, i ddechrau’r streic ym mis Tachwedd. Ymateb y dynion i’r digwyddiadau oedd galw cyfarfod a fynychwyd gan 3000 ble y llosgwyd papurau newydd pleidiol i’r Arglwydd Penrhyn a chyhoeddi’r streic.

Roedd cronfeydd yn bennaf flaenoriaeth yn dilyn Dinorwig a chafwyd casgliadau mewn chwareli eraill ac yn ystod cyfarfodydd cyhoeddus a chyngherddau. Y cyfranwyr mwyaf oedd undebau llafur ar hyd a lled Prydain. Er gwaethaf hynny, aeth dros fil o gyn-weithwyr y chwarel yn fuan iawn i weithio mewn chwareli eraill, glofeydd, dociau a gweithfeydd bric drwy Gymru a gogledd orllewin Lloegr. Fel yn achos Dinorwig, fe fu amryw o achlysuron pan geisiodd y rheolwyr ailagor y chwarel, ond unwaith eto ni ddychwelodd unrhyw weithwyr. Fodd bynnag, tu ôl i gefnau pwyllgor y gweithwyr, fe ddaeth arweinyddiaeth yr undeb i gytundeb a werthai allan i’r rheolwyr ac a olygai anwybyddu pwyllgor y gweithwyr fel llais chwarelwyr Bethesda. Er i reolwyr y chwarel ddefnyddio’r cytundeb hwn i ymosod ymhellach ar yr amodau gwaith yn y chwarel, fe osododd prif arweinwyr pwyllgor y chwarelwyr y bai yn llwyr ar arweinwyr yr undeb nad oeddynt yn chwarelwyr a chymryd awenau arweinyddiaeth yr undeb o fewn y chwarel mewn cynhadledd arbennig. Roedd aelodaeth yr undeb ym Methesda ar ei hisaf erioed, ond arweiniodd gwaharddiad ar gasglu tâl aelodaeth at ddyblu aelodaeth yr undeb o fewn y chwarel. Rhoddodd y cynnydd hwn mewn aelodaeth y cyfle i’r undeb geisio crafangu’n ôl rhywfaint o’r amodau gwaith a gollwyd, ond fe arweiniodd brwydr benben rhwng y rheolwyr a’r chwarelwyr yn y pendraw at achos llys. Y rheswm dros hynny oedd i amryw o oruchwylwyr gael eu hymosod arnynt a’u taflu allan o’r chwarel. (Roeddynt newydd gael eu cyflogi i ddyfarnu i’r gweithwyr pa gerrig i’w hollti - yn flaenorol roedd y gweithwyr wedi gweithio mewn ffordd oedd yn lleihau gwastraff, ond yn awr oedd y rheolwyr eisiau cynnyrch cyflym). Pan orymdeithiodd y dynion i Fangor ym mis Tachwedd 1900 i gefnogi’r dynion oedd ar brawf, fe’u hataliwyd o’r gwaith am bythefnos.

Yr Ail Gloi’r Drysau

Yn sgìl y digwyddiad hwn fe ddechreuodd ail Gloi Drysau’r Penrhyn a drodd yn Streic Fawr y Penrhyn a barodd o 1900 i 1903; roedd yn rhan o gynllun bwriadus gan reolwyr y chwarel i ddinistrio’r undeb a lleihau’r gweithlu. Ceisiodd Penrhyn ailagor y chwarel ym mis Gorffennaf 1901, ond dim ond 500 a ddychwelodd i’r gwaith. Arweiniodd hyn at ddechrau cyfnod chwerw iawn, gydag ymosodiadau yn erbyn y bradwyr (cynffonwyr) ac fe gawsant eu hynysu’n gymdeithasol. Roedd y rhaniad mor chwerw fel bod tai’r bradwyr ym Methesda tan yn ddiweddar iawn werth llai o arian oherwydd hyn. Erbyn mis Mehefin y flwyddyn ganlynol, er gwaethaf y ffaith fod ffrwd fechan o chwarelwyr wedi dychwelyd, dim ond 700 oedd yn ôl yn y chwarel ac roedd 2000 dal allan o waith. Ond fe ddaeth yr anghydfod i benllanw ym mis Medi 1903 pan beidiodd Ffederasiwn Cyffredinol yr Undebau Llafur dalu tâl streic i’r dynion (yn dilyn y problemau blaenorol yn Ninorwig roeddynt wedi arwyddo ar gyfer cronfa ar y cyd gydag undebau eraill), a phenderfynodd cyfarfod torfol, drwy fwyafrif bychan, i ddychwelyd i’r gwaith.

Roedd Penrhyn yn benderfynol o beidio â gadael unrhyw ddynion yn ôl oedd wedi bod yn rhy ‘annheyrngar’ a phedair blynedd ar ôl diwedd yr anghydfod dim ond hanner llawn oedd y chwarel. Roedd yr anghydfod wedi malurio diwydiant llechi’r Gogledd. Am fod y rhan fwyaf o incwm Penrhyn yn tarddu o rent o dir ac eiddo drwy’r Gogledd, gyda’r chwarel yn creu incwm ychwanegol, gallai fforddio iddi fod yn gymharol segur am yr holl flynyddoedd hyn.

Yn 1908 fe alwodd cangen newydd o’r Blaid Lafur Annibynnol (ILP) ym Methesda am genedlaetholi’r tir ac fe allasai’r slogan hwn fod wedi uno’r ffermwyr tenant a’r gweithwyr a chreu’r potensial i dorri gafael haearnaidd Penrhyn. Ond roedd gan yr Arglwydd Penrhyn hefyd holl rym y wladwriaeth yn gefn iddo, nid yn unig yn sgìl yr achos llys ond hefyd o ran y cannoedd o heddlu a milwyr a symudwyd i’r ardal, rhai ohonynt i hebrwng y cynffonwyr i’r gwaith. Yn olaf, un wers a ddaeth yn eglur o’r streic oedd na ddylid rhoi coel mewn Rhyddfrydiaeth radical ond yn hytrach fod angen llais annibynnol ar y dosbarth gweithiol; cafodd hynny ei atgyfnerthu pan siaradodd Keir Hardie i gyfarfod enfawr o 4000 yn y cylch.

Wrth edrych yn ôl ar y streiciau hyn, mae’n rhaid edmygu penderfyniad a gwroldeb y gweithwyr hyn. Ond yn anffodus nid yw hynny’n aml yn ddigon i ennill buddugoliaeth. Mae angen arweiniad dewr a phellgyrhaeddol. Roedd gorchfygu’r chwarelwyr yn ganlyniad i raddau helaeth iawn i arweinyddiaeth wan yr undeb.

Heddiw, fe welir brwydrau’r chwarelwyr gan haneswyr ‘swyddogol’ y mudiad llafur fel safiad olaf gweithwyr diwydiant oedd wedi ei dynghedu i farw. Ar ganfed pen-blwydd Streic Fawr y Penrhyn cafwyd digwyddiadau coffau gyda rhai o brif arweinwyr y pennaf bleidiau yng Nghymru yn bresennol. Ffordd lawer iawn yn well o gofio am yr ymrafael hwn fyddai parhau â’r frwydr a ddechreuwyd gan y chwarelwyr dros gymdeithas decach, ble fydd gan weithwyr reolaeth dros eu bywydau eu hunain - y gymdeithas sosialaidd yr ydym yn ymladd drosti heddiw.

Yn ol i'r ben