MANIFFESTO’R BLAID GOMIWNYDDOL
Y mae rhith yn cythryblu
Ewrop – rhith Comiwnyddiaeth.
Ymunodd pob un o alluoedd yr hen Ewrop yn un helfa santaidd yn erbyn y rhith
hwn, y Pab a'r Tsar, Metternich a Guizot, Radicaliaid Ffrainc a phlismyn gwleidyddol
yr Almaen.
Ble mae'r wrthblaid nas cyhuddwyd o fod yn Gomiwnyddol gan lywodraeth y dydd,
a’r wrthblaid hithau na hyrddiodd yn ôl y cyhuddair melltigedig,
Comiwnyddiaeth, yn erbyn gwrthbleidiau mwy blaengar na hi ei hunan yn ogystal
ag yn erbyn ei gwrthwynebwyr adweithiol?
Cyfyd deubeth o'r ffaith hon.
Cydnabyddir Comiwnyddiaeth eisoes yn allu ynddi ei hunan gan holl alluoedd
Ewrop.
Y mae'n hen bryd i'r Comiwnyddion gyhoeddi'n agored yng ngwydd y byd eu credo
a'u hamcanion a’u tueddiadau ac wynebu'r stori blant am y ddrychiolaeth
Gomiwnyddol â maniffesto'r blaid ei hunan.
I'r diben hwn ymygyfarfu Comiwnyddion y gwahanol wledydd yn Llundain a llunio’r
maniffesto a ganlyn i'w gyhoeddi yn yr ieithoedd Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg,
Eidaleg, Fflemineg a Daneg.
BWRGEISIAID A PHROLETARIAID
Hanes pob cymdeithas hyd
yn hyn(1) ydyw hanes brwydrau dosbarth.
Gwr rhydd a chwaethwas, patrisiad a phlebïad, barwn a thaeog, gild feistr
a dyddweithiwr, mewn gair, y gorthrymwr a'r gorthrymedig, fe wrthsafodd y
rhain ei gilydd erioed, gan ymladd yn ddibaid, boed ynghudd neu'n agored,
frwydr a orffennodd bob tro y naill ai mewn ad-drefniad chwyldroadol ar gymdeithas
yn gyfangwbl, neu ynteu yng nghyd-ddinistr y dosbarthiadau ymladdgar.
Yng nghyfnodau cynharaf hanes gwelwn braidd ym mhobman drefn gymdeithasol
gyflawn o wahanol ddosbarthiadau, a graddoliad amryfal mewn safle gymdeithasol.
Yn Rhufain gynt cawn y patrisiaid, y marchogion, y plebïaid a'r caethion;
yn y canol oesoedd yr arglwyddi ffiwdal, y gweision ffiwdal (vassals), y gild-feistri,
y dyddweithwyr a'r taeogion, ac is-rannau eto y tu mewn i bron bob un o'r
dosbarthiadau hyn.
Ni ddarfu i'r gymdeithas gyfalafol fodern a dyfodd ar adfeilion y gymdeithas
ffiwdal wneud i ffwrdd â gwrthddywediadau dosbarth; ni wnaeth namyn
sefydlu dosbarthiadau newydd, amgylchiadau newydd i orthrwm, a dulliau newydd
o frwydro yn lle'r hen.
Y mae ein cyfnod ni, y cyfnod bwrgeisiol, er hynny, yn nodweddiadol oherwydd
iddo symleiddio'r gwrthddywediadau hyn. Y mae cymdeithas oll yn rhannu fwyfwy
yn ddau wersyll mawr gelyniaethus, yn ddau ddosbarth mawr yn sefyll yn uniongyrchol
yn erbyn ei gilydd, y bwrgeiswyr a'r proletarwyr.
O blith taeogion y canol oesoedd y cyfododd dinaswyr rhyddion y trefydd cynnar,
ac o blith y dinaswyr hyn y datblygodd elfennau cyntaf y dosbarth bwrgeisiol.
Agorodd darganfyddiad America a chylchforiad Affrica dir newydd i'r bwrgeiswyr
oedd yn cyfodi. Rhoes marchnadoedd China, ac India'r Dwyrain, gwladychiad
America, masnachu â'r trefedigaethau, a'r cynnydd mewn moddion cyfnewid
ac mewn nwyddau'n gyffredinol, symbyliad na welwyd mo'i fath o'r blaen i fasnach,
i longwriaeth ac i ddiwydiant, a rhoddwyd, o'r herwydd, ddatblygiad cyflym
i'r elfen chwyldroadol y tu mewn i'r gymdeithas ffiwdal sigledig.
Yr oedd yr hen gyfundrefn ddiwydiant ffiwdal a'i gildiau yn annigonol mwyach
i ateb gofynion cynyddol y marchnadoedd newydd. Daeth llawddiwydiant i gymryd
ei lle. Gwthiwyd y gild-feistri o'r neulltu gan y dosbarth canol diwydiannol,
a diflanodd y gyfundrefn o rannu'r gwaith rhwng y gwahanol gildiau yn wyneb
y system o rannu’r gwaith y tu mewn i'r ffatri unigol ei hunan.
Eithr po fwyaf y
tyfai'r marchnadoedd, mwyaf oll y cynyddai'r gofynion. Bellach ni wnâi
hyd yn oed llawddiwydiant y tro. Felly, chwyldroes ager a pheiriannau gynhyrchu
diwydiannol. Disodlwyd llawddiwydiant gan y diwydiant mawr modern, a’r
dosbarth canol diwydiannol gan y miliwnyddion diwydiannol, penaethiaid byddinoedd
cyfain, y bwrgeiswyr modern.
Creodd y diwydiant mawr y farchnad fyd y paratowyd y ffordd iddi eisoes gan
ddarganfyddiad America. Rhoes y farchnad hon symbyliad enfawr i fasnach, i
longwriaeth, ac i drafnidiaeth ar dir. Ail ddylanwadodd y rhain yn eu tro
ar ymlediad diwydiant, ac fel yr ymledai diwydiant, masnach, llongwriaeth,
a rheilffyrdd, felly i’r un graddau y datblygai'r bwrgeiswyr, gan amlhau
eu cyfalaf a gwthio i'r cefndir bob dosbarth a draddodwyd i lawr o'r oesoedd
canol.
Gwelwn felly sut y mae'r bwrgeiswyr modern eu hunain yn gynnyrch cwrs o ddatblygiad,
yn gynnyrch rhes o gyfnewidiadau mewn dulliau cynhyrchu a chyfnewid.
Yr oedd yn cyd-redeg â phob cam yn natblygiad y bwrgeiswyr ddatblygiad
gwleidyddol cyfatebol. A hwythau'n ddosbarth gorthrymedig dan lywodraeth yr
arglwyddi ffiwdal, yn gymdeithasau arfog, hunan-lywodraethol, yn y Commune(2)
, yma’n ddinaswladwriaeth annibynnol(3),
acw'n drydedd ystad drethadwy dan y frenhiniaeth , ac yna yng nghyfnod llawddiwydiant,
yn wrthbwys yn erbyn y bonheddwr ac o blaid y breniniaethau hanner-ffiwdal
neu ddiamodol, a grwndwal y breniniaethau mawrion yn gyffredinol, fe enillodd
y bwrgeiswyr, wedi dyfod y diwydiant mawr a'r farchnad fyd, reolaeth wleidyddol
ddiymrannol iddynt eu hunain yn y wladwriaeth seneddol fodern. Nid yw'r wladwriaeth
fodern namyn pwyllgor er gweinyddu materion cyffredin yr holl ddosbarth bwrgeisiol.
Y mae'r bwrgeiswyr yng nghwrs hanes wedi chwarae rhan chwyldroadol gyda'r
mwyaf.
Y mae’r bwrgeiswyr, lle yr enillasant reolaeth, wedi dileu pob perthynas
ffiwdal, batriarchaidd, ac eidylaidd. Heb unrhyw drugaredd, torasant yn rubanau
yr amrywiol rwymau ffiwdalaidd a glymai ddynion wrth eu "meistri naturiol,"
ac ni adawsant rhwng dyn a dyn unrhyw rwymyu ond hunanfudd noeth, "rhwymyn
arian parod" calongaled. Ganddynt hwy fe foddwyd gorfoledd dwyfol pob
tân crefyddol, pob brwdfrydedd gwrol, a phob sentimentaliaeth philistaidd,
yn nyfroedd rhewllyd cyfrifon masnachol hunanol. Troesant urddas y person
yn werth cyfnewid, ac yn lle'r rhyddfreintiau breiniol, haeddiannol, dirif,
sefydlasant un rhyddid, sef rhyddid masnach digydwybod. Mewn gair, yn lle
dull o ecsploitio a wyngalchwyd gan hud a lledrith gwleidyddiaeth a chrefydd,
sefydlasant ddull agored, uniongyrchol, noeth a digywilydd.
Y mae'r bwrgeiswyr
wedi ei dinoethi o'i gwisg santaidd bob galwedigaeth a gyfrifid gynt yn urddasol
ac yr edrychid arni a pharchedig ofn. Troesant y meddyg, y cyfreithiwr, yr
offeiriad, y bardd, a'r gwyddonydd, yn weithwyr cyflog iddynt hwy eu hunain.
Y mae'r bwrgeiswyr wedi tynnu oddi ar y berthynas deuluol ei gorchudd o ffug
deimladau sentimental, a'i throi'n berthynas ariannol bur.
Y mae'r bwrgeiswyr wedi dangos sut y bu i'r fath arddangosfa greulon o egni,
a edmyga gwyr yr adwaith gymaint yn yr oesoedd canol, gydfodoli â'r
anweithgarwch mwyaf dioglyd. Amlygasant am y tro cyntaf bell y geill gweithgarwch
dyn ei wneud. Cyflawnasant ryfeddodau y tu hwnt i byramidiau'r Aifft, dyfr-ffosydd
Rhufain a phrifeglwysi Gothig, a chyflawnasant bererindodau y tu hwnt i grwydriadau
cenhedloedd a phob crwsâd.
Y mae’r bwrgeiswyr yn analluog i fyw oni chwyldroir yn barhaus y moddian
cynhyrchu, y berthynas gynhyrchu, a holl amgylchiadau cymdeithas. Prif amod
diogelwch pob dosbarth diwydiannol cynt ydoedd cadw'n ddigyfnewid yr hen ddulliau
cynhyrchu. Eithr nodweddir y cyfnod bwrgeisiol, yn wahanol i bob cyfnod arall,
gan gyfnewidiadau diderfyn mewn cynhyrchu, gan aflonyddwch dibaid yn holl
amgylchiadau cymdeithas, a chau ansicrwydd a chyffo di-ben-draw. Ysgubwyd
i fwrdd bob perthynas rydlyd, ddigyfnewid, ynghyd â'i gosgordd o hen
syniadau a rhagfarnau hybarch, a thorrir drachefn y perthnasau newydd hwythau
cyn iddynt ymsefydlu. Popeth breiniol a sefydledig a dry'n fwg, popeth santaidd
a halogir; a gorfodir ar ddynion o'r diwedd weld â llygaid agored gyflwr
eu bywyd a'u perthynas â'u cyd-ddyn.
Y mae'r angen beunyddiol am helaethach marchnadoedd i'w nwyddau yn gyrru'r
bwrgeiswyr ar draws yr holl fyd. Rhaid arnynt ennill gafael ym mhobman, setlo
ym mhobman, a chreu cysylltiadau ym mhobman.
Y mae’r bwrgeiswyr, trwy ecsploitio'r farchnad fyd, wedi rhoi ansawdd
gosmopolitan i gynnyrch a thraul ym mhob gwlad. Er dygn ofid i wyr yr adwaith,
tynasant o dan draed diwydiant y tir cenedlaethol y safai arno. Y mae'r hen
ddiwydiannau traddodiadol, cenedlaethol, y naill ai wedi eu dinistrio neu
ynteu'n cael eu dinistrio'n feunyddiol. Fe'u hysgubir o'r neulltu gan ddiwydiannau
newydd y mae'n fater bywyd i bob cenedl wâr eu mabwysiadu, diwydiannau
na ddefnyddiant mwyach nwyddau crai cartref eithr nwyddau crai o bellafoedd
y ddaear, a diwydiannau y defnyddir eu cynnyrch nid yn unig yn eu gwlad eu
hunain eithr ym mhob parth o’r byd bwy gilydd Yn lle’r hen anghenion
a ddiwellid gan nwyddau’r wlad, ymgyfyd anghenion newydd yn gofyn cynhyrchion
y gwledydd a'r rhandiroedd pellaf i'w diwallu. Yn lle'r hen ymneilltuaeth
leol, genedlaethol, hunangynhaliol, ceir cyfathrach ar bob llaw, ac ymddibyniaeth
amlochrog y naill wlad ar y llall. Ac megis y mae ym myd cynnyrch materol,
felly y mae ym myd cynnyrch y meddwl. Daeth creadigaethau meddwl y genedl
unigol yn etifeddiaeth gydwladol, aeth culni cenedlaethol, unochrog, yn.fwyfwy
amhosibl, ac o nifer o lenyddiaethau lleol ymgyfyd llenyddiaeth fyd.
Y mae'r bwrgeiswyr trwy wella'n gyflym y moddion cynhyrchu a thrwy ddatblygu
trafnidiaeth yn gyson, yn tynnu pob cenedl boed mo anwar ag y bo, o fewn cyffiniau
gwareiddiad. Prisoedd isel eu nwyddau yw'r gynnau mawrion a ddefnyddiant,
i chwalu pob Clawdd Offa(4), ac i beri dymchwelyd casineb
ystyfnig yr anwar tuag at estroniaid. Gorfodant ar bob cenedl fabwysiadu ar
berygl dinistr y dull cyfalafol o gynhyrchu, gorfodant arnynt fabwysiadu'r
hyn a elwir yn wareiddiad, sef, mynd ohonynt yn fwrgeisiol eu hunain. Mewn
gair, creant fyd ar eu delw eu hunain.
Y mae'r bwrgeiswyr wedi darostwng y wlad i reolaeth y dref. Creasant ddinasoedd
enfawr, cynyddasant yn enfawr nifer poblogaeth y dref o'i gymharu ag eiddo'r
wlad, ac achub, felly, ran sylweddol o'r boblogaeth rhag hurtrwydd y bywyd
gwledig. Ac megis y troesant y wlad yn ddibynnol ar y dref, felly y troesant
wledydd anwar a gwledydd hanner gwâr yn ddibynnol ar wledydd gwâr,
cenhedloedd amaethyddol yn ddibynnol ar genhedloedd cyfalafol, y Dwyrain yn
ddibynnol ar y Gorllewin.
Y mae'r bwrgeiswyr yn dileu fwyfwy fân ddiwydiannau, mân berchnogaeth,
a mân boblogaethau. Y maent wedi pentyrru poblogaeth, canoli moddion
cynhyrchu, a chronni eiddo yn nwylo'r ychydig. Canlyniad anhepgor hyn ydoedd
canoli gwleidyddiaeth. Taleithiau hanner dibynnol a rhai annibynnol, taleithiau
a chanddynt wahanol fuddiannau, deddfau, llywodraethau, a thollau - fe'u hasiwyd
at ei gilydd dan un llywodraeth, un ddeddf, un dollffin, un budd dosbarth
cenedlaethol.
Y mae'r bwrgeiswyr, yn ystod eu rheolaeth brin ganmlwydd oed fel dosbarth,
wedi creu galluoedd cynhyrchu mwy enfawr ac aruthrol na'r holl genedlaehau
cynt gyda'i gilydd. Harneisio galluoedd natur, peiriannaeth, cymhwyso cemeg
at ddibenion diwydiant ac amaethyddiaeth, llongwriaeth ager, rheilffyrdd a
theligraffau trydan, gwrteithio darnau cyfain o'r byd, addasu afonydd a longwriaeth,
swyno poblogaethau cyfain allan o'r ddaear – pa ganrif gynt a freuddwydiodd
bod y fath alluoedd cynhyrchu yn huno ym mynwes cyd-lafur cymdeithas.
Gwelsom, felly, fod y moddion cynhyrchu a chyfnewid yr adeiladodd y bwrgeiswyr
eu hunain arnynt, wedi eu creu yn y gymdeithas ffiwdal. Ar adeg arbennig yn
natblygiad y moddion cynhyrchu a chyfnewid hyn, ni chyfatebai'r berthynas
y cynhyrchai ac y cyfnewidiai cymdeithas ffiwdal ynddi – y drefn ffiwdal
ar amaethyddiaeth a diwydiant, hynny yw, y drefn ffiwdal ar eiddo –
ni chyfatebai'r berthynas hon mwyach â'r galluoedd cynhyrchu oedd eisoes
wedi datblygu. Rhwystrent gynnyrch yn y lle'i hyrwyddo. Troesant yn gynifer
o lyffetheiriau. Rhaid oedd eu dryllio; a'u dryllio a wnaed.
Yn eu lle daeth cystadleuaeth rhydd, ynghyd â chyfansoddiad gwleidyddol
a chymdeithasol cyfaddas ynghyd ag unbennaeth economaidd a gwleidyddol y dosbarth
bwrgeisiol.
Fe ddigwydd mudiad cyffelyb o flaen ein llygaid ninnau. Y mae’r gymdeithas
gyfalafol fodern a'i dulliau cyfalafol o gynhyrchu, cyfnewid, a pherchnogi
eiddo, cymdeithas sydd wedi swyngreu moddion cynhyrchu a chyfnewid mor aruthrol,
y mae hithau fel y dewin yn methu rheoli galluoedd y tywyllwch a grewyd gan
ei swyngyfaredd. Ers degau o flynyddoedd ni bu hanes diwydiant a masnach namyn
hanes gwrthryfel y galluoedd cynhyrchu newydd yn erbyn y berthynas gynhyrchu
gyfoes, yn erbyn y dulliau o berchnogi eiddo sy'n anhepgor i fywyd a rheolaeth
y bwrgeisiaid. Ni raid ond enwi'r argyfyngau masnach sydd, wrth ail-ddigwydd
yn dymhorol, yn peryglu'n fwyfwy bygythiol einioes yr holl gymdeithas gyfalafol.
Yn yr argyfyngau masnach difethir yn rheolaidd y rhan helaethaf nid yn unig
o'r nwyddau a gynhyrchwyd, eithr hefyd o'r moddion cynchyrchu a grewyd yn
barod. Yn yr argyfwng ymgyfyd pla a ymddangosai i unrhyw gyfnod cynt yn rhywbeth
afresymol -pla gorgynhyrchu. Am gyfnod, gwêl cymdeithas ei thaflu ei
hunan yn ôl yn sydyn i gyflwr barbariaeth; ymddengys fel pe bai newyn
a rhyfel ddistrywgar ym mhobman wedi alltudio pob cyflenwad moddion byw; ymddengys
diwydiant a masnach fel pe y difethid hwy. A pham? Oherwydd gormod o wareiddiad,
gormod o adnoddau byw, gormod o ddiwydiant, gormod o fasnach. Nid yw'r galluoedd
cynhyrchu sydd wedi wasanaeth dyn yn hyfforddi mwyach wareiddiad bwrgeisiol
a dulliau bwrgeisiol o berchnogi eiddo; i'r gwrthwyneb, daethant yn rhy gryf
i'r dulliau hyn, ac fe'u rhwystrir ganddynt; eithr cyn gynted ag y gorthrechant
y rhwystrau hyn, tynnant y gymdeithas gyfalafol bendramwnwgl, perlyglant fodolaeth
eiddo cyfalafol. Y mae'r drefn gyfalafol yn rhy gul i gynnal y digonedd y
mae wedi ei greu. A sut y gorchfygu’r bwrgeiswyr yr argyfwng? Ar y naill
law trwy ddinistrio’n orfodol ran helaeth o'r galluoedd cynhyrchu, ac
ar y llaw arall, trwy oresgyn marchnadoedd newydd a thrwy ecsploitio'r hen
rai'n fwy trwyadl. A pha fodd y gwneir hyn? Fe'i gwneir trwy baratoi argyfyngau
helaethach a mwy ofnadwy, a thrwy amharu'r moddion a eill eu rhwystro.
Y mae'r arfau a ddefnyddiodd y bwrgeiswyr i ddymchwelyd ffiwdaliaeth wedi
eu troi yn awr yn erbyn y bwrgeiswyr eu hunain.
Eithr y mae'r bwrgeiswyr nid yn unig wedi tymheru'r arfau a’u dug hwynt
i farwolaeth, y maent hefyd wedi creu'r dynion i ddefnyddu'r arfau hyn –
y gweithwyr modern, y proletarwyr.
Fel y datblyga’r bwrgeiswyr - hynny yw, cyfalaf - felly i'r un graddau
y tyf y proletariat, y dosbarth gweithwyr modern na allant fyw ond cyhyd â'u
bod yn cael gwaith, ac na chant waith ond cyhyd â bod eu gwaith yn cynyddu
cyfalaf. Y mae'r gweithwyr hyn sy'n gorfod eu gwerthu eu hunain wrth y darn,
yn nwydd fel unrhyw nwydd masnachol arall, ac yn ddibynnol felly ar holl fympwyon
cystadleuaeth a holl anwadal gyfnewidiadau'r farchnad.
Oherwydd y cynnydd mewn peiriannaeth a rhannu'r gwaith fe gollodd llafur y
gweithiwr bob nodwedd annibynnol, ac, o ganlyniad, bob diddordeb i'r gweithiwr.
Aeth yntau'n ddim ond atodiad i'r peiriant, ac ni ddisgwylir dim oddi wrtho
ond y llaw-weithred fwyaf seml, undonog a hawdd ei gwneud. Y mae’r gost
y mae’r gweithiwr yn ei pheri, felly, yn gyfyngedig bron yn llwyr i'r
moddion cynhaliaeth y mae'n rhaid iddo wrthynt er mwyn bywoliaeth iddo'i hunan
ac er mwyn cenhedlu ei hil. Eithr y mae pris nwyddau, ac felly pris llafur,
yn gyfartal â'r gost o'u cynhyrchu. I'r graddau y cynydda ffieiddiwch
y gwaith syrthia, hefyd gyflog y gweithiwr. Mwy na hynny, i'r un graddau ag
y cynydda peiriannaeth a rhannu'r gwaith fe gynydda hefyd faich y gwaith,
megis cynnydd mewn oriau gwaith, cynnydd yn y gwaith a ddisgwylir mewn amser
penodedig, cynnydd mewn cyflymder peiriannau, ac yn y blaen.
Y mae diwydiannaeth fodern wedi troi gweithdy bach y meistr patriarchiaidd
yn ffatri fawr y cyfalafydd diwydiannol. Yn y ffatri rheolir fel pe baent
filwyr y dorf o weithwyr a heidiwyd at ei gilydd. Fe'u gosodir, yn rhinwedd
eu swydd fel rhengfilwyr diwydiant, dan oruchwyliaeth pencadlys cyfan o swyddogion
ac is-swyddogion. Caethiwir hwynt nid yn unig gan y dosbarth a'r wladwriaeth
fwrgeisiol, fe'u caethiwir o ddydd i ddydd, ac o awr i awr gan y peiriant,
y goruchwyliwr, ac yn anad neb gan y cyfalafydd diwydiannol, unigol ei hunan.
Ac y mae'r arglwyddiaeth hon gymaint yn agosach, chwerwach a gwaelach po egluraf
y cyhoeddir mai elw yw ei phrif amcan.
Po leiaf deheu'r gwaith a pho ysgafnaf y bo, hynny yw, po fwyaf datblygedig
y diwydiant modern, mwyaf y disodlir llafur gwyr gan lafur gwragedd a phlant.
I'r dosbarth llafur nid oes i wahaniaethau rhyw ac oedran unrhyw arwyddocâd
cymdeithasol mwyach; y maent i gyd yn offer llafur, mwy neu lai costfawr yn
ôl eu hoed a'u rhyw.
Cyn gynted ag y gorffennir ecsploitio'r gweithiwr yn y ffatri, a'i dalu i
ffwrdd gyda’i gyflog sâl, ymosodir arno gan y darnau eraill o'r
bwrgeiswyr, y tirfeddiannwr, y siopwr, y ponwr, ayyb.
Y mae’r haenau isaf o'r dosbarth canol - cyfalafwyr bach, masnachwyr
a gwyr yn byw ar eu harian, crefftwyr a thyddynwyr - yn syrthio i blith y
proletariat, yn gyntaf, am fod eu tipyn cyfalaf yn annigonol i weinyddiaeth
diwydiant modern ac yn cael ei lethu gan gystadleuaeth y cyfalafwyr mawr,
ac yn ail, am fod eu crefft wedi ei dibrisio gan ddulliau cynhyrchu newydd.
Felly, fe ychwanega'r proletarwyr at eu nifer ar draul pob dosbarth o'r boblogaeth.
Â'r proletariat trwy lawer gradd yng nghwrs eu datblygiad. Y mae eu
brwydr â'r bwrgeisiaid yn rhan o'u bodolaeth o'r dechrau cyntaf.
Ar y dechrau, ymladda gweithwyr unigol, yna gweithwyr mewn un ffatri, yna
gweithwyr mewn un diwydiant mewn un ardal, yn erbyn y cyfalafydd unigol a'u
hecsploitia'n uniongyrchol. Anelant eu hergydion nid yn unig yn erbyn y dulliau
cyfalafol o gynhyrchu, eithr hefyd yn erbyn y moddion cynhyrchu eu hunain;
dinistriant nwyddau cystadleuol tramor, dinistriant beiriannau, rhoddant ffatrioedd
ar dân, ceisiant adennill status ddiflanedig gweithwyr yr oesoedd canol.
Yn y cyfnod hwn nid yw'r gweithwyr trwy'r holl wlad namyu torf wasgaredig
a dorrwyd yn ddarnau trwy ymgystadlu. Hyd yn hyn nid effaith eu hunoliaeth
eu hunain ydyw eu clymu’n unedau mawrion, eithr effaith unoliaeth y
bwrgeisiaid, sy'n gorfod, er sicrhau eu hamcanion gwleidyddol eu hunain, rhoi
hwb ymlaen i'r dosbarth proletaraidd cyhyd ag y gallont. Yn y cyfnod hwn,
felly, fe ymladda'r proletariat nid yn erbyn eu gelynion eu hunain, eithr
yn erbyn gelynion eu gelynion – olion y breniniaethau diamodol, y tirfeddianwyr,
y bwrgeiswyr di-ddiwydiant, a'r mân fwrgeiswyr.Y mae eu holl ddatblygiad
gwleidyddol wedi ei ganoli, felly, yn nwylo'r bwrgeiswyr; pob buddugoliaeth
a enillir felly, buddugoliaeth y bwrgeiswyr ydyw.
Gyda datblygiad diwydiant, fodd bynnag, nid yn unig fe amlha nifer y proletarwyr,
eithr fe'u crynhoir gyda'i gilydd yn dyrfaoedd mawrion; cryfhânt a theimlo'n
ymwybodol o'u nerth. Fe ddaw buddiannau a chyflwr bywyd y proletarwyr hefyd
yn fwyfwy cyfartal, fel y dilea peiriannaeth fwyfwy’r gwahaniaethau
mewn llafur, a thynnu cyflogau i lawr bron ym mhobman i’r un safon isel.
Y mae cynnydd mewn cystadleuaeth ymhlith y bwrgeiswyr, ynghyd â'r argyfyngau
masnach sy'n dilyn o'r herwydd, yn peri gwneud cyflogau'r gweithwyr yn fwyfwy
cyfnewidiol, ac y mae'r gwellhâd cyson sy’n datblygu'n gyflymach
o hyd mewn peiriannaeth yn peri gwneud eu bywoliaeth yn fwyfwy ansicr; mwyfwy
felly yr yrnddengys gwrthdarawiad rhwng gweithwyr a chyfalalwyr unigol fel
gwrthdarawiad rhwng dau ddosbarth. Fe ddechreua'r gweithwyr ffurfio undebau
yn erbyn y bwrgeiswyr, ac ymunant â'i gilydd i amddiffyn eu cyflogau.
Ffurfiant hyd yn oed undebau parhaol er mwyn paratoi ar gyfer y gwrthryfeloedd
achlysurol hyn. Yma ac acw try’r frwydr yn derfysg agored.
O bryd i'w gilydd, fe enilla’r gweithwyr fuddugoliaeth eithr buddugoliaeth
dros dro yn unig. Nid yn y llwyddiant uniongyrchol y saif gwir arwyddochâd
eu brwydrau, eithr yn ymlediad cyson unoliaeth y gweithwyr. Hyfforddir ef
ymhellach gan y cynnydd yn y cyfryngau cyfathrach a greir gan y diwydiant
mawr, ac a ddwg weithwyr gwahanol ardaloedd i gysylltiad agos â’i
gilydd. Dyma'n union y cysylltiad yr oedd yn rhaid wrtho er mwyn uno'r amryw
frwydrau lleol - brwydrau o'r un ansawdd ym mhobman - yn un frwydr ar radd
genedlaethol, hynny yw, yn frwydr dosbarth. Ac y mae pob brwydr dosbarth yn
frwydr wleidyddol. Trwy gyfrwng y rheilffyrdd fe enilla'r proletariat mewn
rhai blynyddoedd, yr unioliaeth honno y treiliodd bwrdeiswyr yr oesoedd canol,
oherwydd eu ffyrdd tlawd, ganrifoedd i'w meithrin.
Fe ddinistrir trefniant y proletariat fel dosbarth, ac felly fel plaid wleidyddol,
drachefn gan gystadleuaeth y gweithwyr eu hunain. Eithr ymgyfyd drachefn a
thrachefn, yn gadarnach, yn gryfach, ac yn fwy nerthol. Enilla gydnabyddiaeth
gyfreithiol i rai o fuddiannau arbennig y gweithwyr, a hynny trwy fanteisio
ar y rhaniadau ymhlith y bwrgeiswyr eu hunain. Felly'r Gyfraith Ddeg Awr yn
Lloegr.
Y mae gwrthdarawiadau’r hen gmdeithas yn hyfforddi mewn lawer modd gwrsdatblygiad
proletariat. Fe fydd y bwrgeiswyr yn eu gweld eu hunain ymysg brwydrau parhaus
yn gyntaf, yn erbyn y bendefigaeth, yn ddiweddarach, yn erbyn yr adrannau
hynny o'r bwrgeiswyr eu hunain y mae eu buddiannau'n groes i ddatblygiad diwydiant,
a beunydd yn erbyn bwrgeiswyr pob gwlad arall. Ym mhob un o'r brwydrau hyn
y mae'n rhaid iddynt apelio at y proletariat, erfyn eu cymorth, a'u harwain,
felly, i'r ornest wleidyddol. Fe gyflwynant i'r proletariat, o ganlyniad,
elfennau diwylliant priodol iddynt eu hunain-arfau i'w defnyddio yn erbyn
y bwrgeiswyr.
Ac ymellach, fel y gwelsom, fe deflir darnau cyfain o’r dosbarthiadau
llywodraethol i lawr i blith y proletariat gan ddatblygiad diwydiant, neu
ynteu, o leiaf, fe beryglir eu safonau byw. Cyflwynant hwythau hefyd fagad
o adnoddau diwylliant i'r proletariat.
Yn y diwedd, pan ddêl awr barn y frwydr dosbarth, fe gymer yr ymddatodiad
y tu mewn i'r dosbarth llywodraethol, a'r tu mewn i'r hen gymdeithas yn gyfangwbl,
ffurf mor amlwg a bygythiol, nes peri i ddarn bychan o'r dosbarth llywodraethol
ynmeilltuo ac ymglymu wrth y dosbarth chwyldroadol, y dosbarth sydd â'r
dyfodol yn ei ddwylo. Megis gynt yr aeth rhan o’r bendefigaeth drosodd
at y bwrgeisiaid, felly yn awr yr â darn o'r bwrgeisiaid drosodd at
y proletariaid, yn enwedig y darn hwnnw o'r meddylwyr ymhlith y bwrgeisiaid
a enillodd ddealltwriaeth ddamcaniaethol o ddatblygiad hanes yn ei gyfanrwydd.
O bob dosbarth sy’n wynebu'r bwrgeiswyr heddiw, y proletariat yw'r unig
ddosbarth gwirioneddol chwyldroadol. Fe ddirywia'r dosbarthiadau eraill a
diflannu o flaen y diwydiant mawr, eithr ei gynnyrch hanfodol ydyw'r proletariat.
Y mae'r aelodau o'r dosbarthiadau canol - y diwydiannydd bach, y masnachwr
bach, y crefftwr, a'r tyddynnwr - yn ymladd yn erbyn y bwrgeiswyr er mwyn
achub rhag dinistr eu bodolaeth y tu mewn i'r dosbarthiadau canol. Nid ydynt
yn chwyldroadol, felly, eithr yn geidwadol. Mwy na hynny, y maent yn adweithiol;
ceisiant droi llif hanes yn ôl. Y maent yn chwyldroadol, os ydynt o
gwbl, oherwydd eu bod ar groesi i'r proletariat ac felly’n amddiffyn
eu buddiannau am y dyfodol yn hytrach na’u buddiannau presennol; gwadant,
felly, eu safbwynt eu hunain er mwyn eu gosod eu hunain yn safbwynt y proletariat.
Yma ac acw, trwy gyfrwng chwyldro proletaraidd, fe ysgubir i mewn i'r mudiad
y gwehilion, y pydron didda o harnau isaf yr hen gymdeithas; eithr y maent
hwy, yn rhinwedd holl gyflwr eu bywyd, yn debycach o'u gwerthu eu hunain i
gynllwynion ad-weithiol.
Y mae amodau bywyd yr hen gymdeithas eisoes wedi eu difetha yn nhelerau bywyd
y proletariat. Y mae'r proletarwr yn ddieiddo; y mae, ei berthynas â'i
wraig, a'i blant yn gwbl wahanol i berthynas deuluol y bwrgeisiwr; y mae llafur
diwydiannol modern a'r darostyngiad modern i gyfalaf - sydd yr un yn Lloegr
ac yn Ffrainc, yn America ac yn yr Almaen - wedi diosg oddi amdano y cyfan
o'i gymeriad cenedlaethol. Iddo ef nid yw cyfraith, moesoldeb, a chrefydd
ond nifer o rhagfarnau bwrgeisiol, rhagfarnau y celir y tu cefn iddynt gynifer
o fuddiannau bwrgeisiol.
Ymgeisiodd pob dosbarth cynharach a enillodd reolaeth sicrhau'r safle, yr
oedd eisoes wedi ei hennill, a hynny trwy ddarostwng cymdeithas yn gyfangwbl
i amodau ei ffyniant ei hunan. Ni eill y proletarwyr berchnogi galluoedd cynhyrchu
cymdeithas oni ddifodant eu hen ddull hwythau o feddiannu eiddo, a chydag
ef bob dull o feddiannu a fu o'i flaen. Nid oes gan y proletarwyr ddim o’u
heiddo'u hunain i'w sicrhau, eu swydd ydyw difetha pob diogelwch ac amddiffyn
a berthynai hyd yn hyn i eiddo preifat.
Mudiad y lleiafrif fu pob mudiad o'r blaen, neu ynteu fudiad er mwyn y lleiafrif.
Mudiad hunan-ymddibynnol y mwyafrif enfawr er mwyn y mwyafrif enfawr ydyw'r
mudiad proletaraidd. Ni eill y proletariat, y dosbarth isaf yn y gymdeithas
bresennol, ymgyfodi a sefyll ar ei draed, oni ddryllia'r holl oruwchadeilad
o haenau cymdeithasol sy'n ffurfio'r gymdeithas swyddogol. O ran ffurf er
nad o ran cynnwys, y mae brwydr y proletariat yn erbyn y bwrgeiswyr, ar y
dechrau, yn frwydr genedlaethol. Rhaid i broletarwyr pob gwlad yn naturiol,
wneud i ffwrdd â’u bwrgeisiaid eu hunain yn gyntaf.
Wrth amlinellu'r cyfnodau mwyaf cyffredinol yn natblygiad y proletariat, dilynasom
gwrs y rhyfel cartref mwy neu lai cudd sy'n bod o fewn y gymdeithas bresennol,
hyd at y man lle yr ymffrwydra'n chwyldro agored, lle y dymchwelir y fwrgeisiaeth
trwy rym, ac y sefydlir rheolaeth y proletariat.
Fe orffwysodd pob cymdeithas hyd yn hyn, fel y gwelsom, ar wrthdarawiad dosbarthiadau
gorthrymgar a gorthrymedig. Eithr er mwyn gorthrymu dosbarth, y mae'n rhaid
sicrhau iddo o leiaf yr amodau a'i gwnâ'n bosibl iddo gadw'n fyw dan
ei orthrwm. Yng nghyfnod taeogaeth, gwnâi'r taeog ymdrech i ddyfod yn
aelod o'r Commune, megis yr ymdrechai'r perchennog bychan yntau, o dan iau’r
unbennaeth ffiwdal, i fod yn aelod o'r fwrgeisiaeth. Eithr yn lle codi gyda
chynnydd diwydiant, y mae’r gweithiwr modern, i'r gwrthwyneb, yn syrthio'n
is, yn is nag amodau bywoliaeth ei ddosbarth ei hunan. Â'r gweithwyr
ar y plwyf, a hynny'n gyflymach nag y datblyga poblogaeth a chyfoeth. Y mae'n
amlwg, felly, nad ydyw'r bwrgeiswyr fel dosbarth yn alluog i reoli cymdeithas
ddim pellach, nac i orfodi arni megis deddf sylfaenol eu telerau byw eu hunain.
Y maent yn analluog i lywodraethu am eu bod yn analluog i sicrhau i’w
caethion fywoliaeth hyd yn oed o fewn terfynau eu caethiwed; am eu bod yn
analluog i rwystro'r sefyllfa lle y mae'n rhaid arnynt eu porthi hwy yn hytrach
na chael eu porthi ganddynt. Ni eill cymdeithas fyw dan y fwrgeisiaeth hon
ddim rhagor hynny yw, nid yw ei bodolaeth yn cydweddu mwyach â bywyd
cymdeithas.
Amod hanfodol bodolaeth a rheolaeth y bwrgeisiaid ydyw pentyrru cyfoeth yn
nwylo unigolion, ffurfio ac amlhau cyfalaf; amod cyfalaf ydyw cyflog-wasanaeth.
Dibynna cyflog-wasanaeth yn gyfangwbl ar gystadleuaeth ymhlith y gweithwyr.
Y mae'r cynnydd mewn diwydiant a hyfforddir yn ddilestair ac anymwybodol gan
y bwrgeisiaid, yn troi'r unigeiddiaeth a seiliwyd ar gystadleuaeth ymhlith
y gweithwyr, yn unoliaeth chwyldroadol a seilir ar gydweithgarwch. A mae datblygiad
y diwydiant mawr, felly, yn tynnu o dan draed y bwrgeisiaid y sylfaen honno
y maent yn cynhyrchu ac yn meddiannu nwyddau arni. Fe gynhyrchant yn anad
dim eu torrwr bedd eu hunain.Y mae eu cwymp hwythau a buddugoliaeth y proletariat
yn anochel y naill fel y llall.
II
Y PROLETARWYR A'R COMIWNYDDION
Beth ydyw'r berthynas
rhwng y Comiwnyddion a'r proletarwyr yn gyffredinol?
Nid plaid arbennig ar wahân i bleidiau eraill y gweithwyr ydyw'r Comiwnyddion.
Nid oes iddynt unrhyw fuddianau ar wahân i fuddianau‘r proletariat
yn ei grynswth.
Ni chyhoeddant unrhyw egwyddorion arbennig y mynnant seilio'r mudiad proletaraidd
arnynt.
Y mae'r Comiwnyddion yn wahanol i'r pleidiau proletaraidd eraill yn hyn o
beth un unig: eu bod, ar y naill law, yng ngwahanol frwydrau cenedlaethol
y proletariat, yn pwysleisio'u buddiannau cyffredin sy'n annibynnol ar eu
cenedlaetholdeb, gan fynnu cydnabyddiaeth iddynt, a'u bod, ar y llaw arall,
yn y gwahanol gyfnodau yn natblygiad y frwydr rhwng y fwrgeisiaeth a'r proletariat,
yn cynrychioli o hyd fuddiannau'r mudiad yn ei gyfanrwydd.
O safbwynt ymarferol, felly, y Comiwnyddion yw’r adran fwyaf penderfynol,
a'r fwyaf blaengar o bleidiau'r gweithwyr ym mhob gwlad; ac o safbwynt damcaniaeth,
y mae ganddynt y fantais ar y rhan helaeth o'r proletarwyr eu bod yn deall
amodau'r mudiad proletaraidd, llinell ei ddatblygiad, a'i ganlyniadau cyffredinol.
Yr un ydyw bwriad cyntaf y Comiwnyddion ag eiddo pob un o'r pleidiau proletaraidd
eraill, sef, adeiladu'r proletariat fel un dosbarth dymchwelyd rheolaeth y
Bwrgeiswyr, ac ennill gallu gwleidyddol i’r gweithwyr.
Ni seiliwyd daliadau damcaniaethol y Comiwnyddion mewn unrhyw fodd ar syniadau
a ddyfeisiwyd neu egwyddorion a ddarganfuwyd gan ryw garn-ddiwygiwr neu'i
gilydd.
Nid ydynt ond mynegiad, mewn dull cyffredinol, o amgylchiadau brwydr dosbarth
sy'n bod yn awr, datblygiad hanesyddol sy'n digwydd o flaen ein llygaid.
Nid dileu'r dulliau traddodiadol o berchnogi eiddo ydyw nodwedd arbennig Comiwnyddiaeth.
Bu dulliau o berchnogi
eiddo erioed yn agored i anwadalwch hanesyddol a chyfnewidiadau hanesyddol
parhaus.
Fe ddifethodd y Chwyldro Ffrengig, er enghraifft, ddulliau ffiwdal o berchnogi
eiddo er mwyn sefydlu dulliau bwrgeisiol.
Yr hyn a nodwedda Gomiwnyddiaeth ydyw dileu eiddo bwrgeisiol, ac nid dileu
eiddo'n gyffredinol.
Eithr eiddo preifat y bwrgeisiwr modern ydyw'r enghraifft olaf a pherffeithiaf
o'r dull o gynhyrchu a meddiannu cyfoeth a seiliwyd ar wrthdarawiad dosbarth,
ar ecsploitio'r naill ddyn gall y llall.
Yn yr ystyr hon, fe eill y Comiwnyddion grynhoi eu damcaniaeth i un frawddeg;
dileu eiddo preifat.
Fe ddanodwyd inni Gomiwnyddion ein bod yn dymuno dileu eiddo a enillwyd trwy
lafur personol, eiddo sy'n sail pob rhyddid personol a phob gweithgarwch ac
annibyniaeth.
Hunan-aberth, hunan-lafur, hunan-wasanaeth! Ai am eiddo mân grefftwyr
a mân dyddynwyr y soniwch, y ffurf ar eiddo a ragflaenodd y ffurf gyfalafol?
Nid oes eisiau inni ddileu hwnw; y mae datblygiad diwydiant wedi ei ddileu
i raddau mawr, ac y mae'n parhau i’w ddileu'n feunyddiol yn awr.
Ai ynteu am eiddo cyfalafal modern y soniwch chwi?
Eithr a ydyw, cyflog-wasaniaeth, sef, llafur y proletarwr, yn creu eiddo iddo
yntau? Ddim o gwbl. Crea gyfalaf, sef, eiddo sy'n ecsploitio cyflog-wasaniaeth,
eiddo na eill gynyddu ond ar yr amod ei fod o hyd yn creu cyflog-wasaniaeth
o'r newydd i'w ecsploitio o'r newydd. Y mae eiddo yn ei ffurf bresennol yn
gorffwys ar y gwrthdarawiad sy'n bod rhwng cyfalaf a chyflog-wasanaeth. Ystyriwn
y ddwy ochr i'r gwrthdarawiad hwn.
A fo gyfalafydd, rhaid iddo gymryd arno nid yn unig swydd bersonol mewn cynhyrchu,
eithr swydd gymdeithasol.
Cynnyrch cymdeithas yn
gyffredin ydyw, cyfalaf, ac ni roddir ef ar waith ond trwy gyd-weithgarwch
llawer o aelodau: yn wir, yn y pen draw, dim ond trwy gyd-weithgarwch pob
aelod o'r gymdeithas.
Nid gallu personol
eithr gallu cymdeithasol, felly, ydyw cyfalaf.
Pan droir cyfalaf yn eiddo cyffredin cymdeithas, a phob aelod o'r gymdeithas
yn berchen arno, ni throir eiddo personol yn eiddo cymdeithasol oblegid hynny.
Arwyddocâd yr eiddo o safbwynt cymdeithas yn unig a newidir. Fe gyll
ei arwyddocâd fel eiddo dosbarth.
Cymerwn gyflog-wasanaeth.
Pris cyflog-wasanaeth ar gyfartaledd ydyw gwerth y Gyflog Leiaf, hynny yw,
y gyfran o'r moddion cynhaliaeth sy'n angenrheidiol i gadw'r gweithiwr yn
fyw fel gweithiwr. Beth bynnag a enilla’r gweithiwr trwy gyfrwng ei
weithgarwch, felly, nid yw’n ddigon ond i ddal deupen llinyn ynghyd.
Ni ddymunem ni mewn unrhyw fodd ddileu'r meddiant personol hwn ar gynnyrch
llafur, meddiant sy'n adnewyddu bywyd yn uniongyrchol, ac na edy weddill a
rydd i ddyn hawl ar lafur dyn arall. Dymunem yn unig wneud i ffwrdd ag amodau
truenus y meddiant hwn, amodau y mae’r gweithwir yn byw danynt yn unig
er mwyn cynyddu cyfalaf, ac yn byw’n unig cyhyd ag y bo budd y dosbarth
llywodraethol yn gofyn hynny.
Yn y gymdeithas gyfalafol nid yw llafur byw ond moddion cynyddu llafur cronedig;
yn y gymdeitlias Gomiwnyddol nid yw llafur cronedig, ond moddion hyfforddi,
cynorthwyo, a chyfoethogi bywyd y gweithiwr.
Yn y gymdeithas gyfalafol, felly, y gorffennol sy'n rheoli’r presennol,
eithr yn y gymdeithas Gomiwnyddol fe lywodaethu'r presennol ar draul y gorffennol.
Yn y gymdeithas gafalafol y mae gan gyfalaf annibyniaeth a hunaniaeth, a'r
unigolyn byw heb nag annibyniaeth na phersonoliaeth.
A geilw'r bwrgeiswyr ddinistr y pethau hyn yn ddinistr personoliaeth a rhyddid.
Ac yn gywir felly. Fe olyga'n ddiamau ddinistr rhyddid, annibyniaeth a phersonoliaeth
y bwrgeisiwr.
Yr hyn a olygir wrth ryddid dan y gyfundrefn gyfalafol bresennol ydyw masnach
rydd, prynu a gwerthu'n rhydd.
Eithr os diflanna mân farchnata, fe ddiflanna hefyd fân farchnata
rhydd. Nid oes ystyr i'r holl siarad am ryddid masnach, ac i holl ymffrostion
eraill ein bwrgeiswyr ynglyn â rhyddid yn gyffredinol, ag eithrio o
safbwynt masnach gyfyngedig, o safbwynt bwrgeiswyr caeth, y canol oesoedd.
Nid oes iddynt ystyr o safbwynt dinistr mân farchnata, dinistr y dulliau
cynhyrchu cyfalafol, a dinistr y bwrgeiswyr eu hunan, dan law’r Comiwnyddion.
Yn y cyfamser, fe’ch arswydir oblegid dymuno ohonom ddileu eiddo preifat.
Eithr yn eich cymdeithas chwithau ar hyn o bryd, fe ddilewyd eiddo preifat
i naw ran o ddeg o'r aelodau, ac y mae’n bod o gwbl yn awr yn union
am nad yw'n bod i naw o bob deg.
Fe’n cyhuddwch ni, felly, o ddymuno dileu math o eiddo sy'n golygu,
o reidrwydd, ddiffyg eiddo i'r mwyafrif helaeth o gymdeithas.
Mewn gair, fe'n cyhuddwch ni o ddymuno dileu eich eiddo chwithau. Yn gymwys
felly; hynny'n union a ddymunwn.
O'r funud pan na ellir mwyach droi llafur yn gyfalaf, arian, a rhent - sef,
yn nerth cymdeithasol y gellir ennill monopôl arno - hynny yw, o'r funud
pan na ellir troi eiddo preifat yn eiddo cyfalafol, o’r munud honno,
meddech chwi, fe ddifethir personaliaeth yn unigolyn.
Fe gydnabyddwch, felly, na olygwch wrth yr unigolyn ddim arall ond y bwrgeisiwr,
y perchennog eiddo bwrgeisiol. A’r person hwnnw, yn bendifaddau, y mae'n
rhaid ei difetha.
Ni ddwg Comiwnyddiaeth oddi ar neb yr hawl i feddiannu cynnyrch cymdeithas;
dwg oddi arno'n unig yr hawl i ecsploitio llafur dyn arall trwy gyfrwng y
cyfryw feddiant.
Fe ddywedwyd yn ein herbyn y peidia pob gweithgarwch pan ddileir eiddo preifat,
ac y goddiweddir ni gan ddiogi llwyr ym mhobman.
Os felly, fe ddylai cymdeithas gyfalafol fod wedi marw o ddiogi ers llawer
dydd, oblegid nid ydyw neb sy'n gweithio ynddi yn elwa, a'r neb sydd yn elwa
nid ydyw'n gweithio. Nid yw'r holl wrthwynebion hyn yn y pen draw namyn aralleiriad
o’r dotoleg: ni bydd cyflog-wasanaeth lle na bo cyfalaf.
Y mae pob gwthwynebiad a ddefnyddiwyd yn erbyn y dull Comiwnyddol o gynhyrchu
a meddiannu nwyddau materol, wedi ei gymhwyso hefyd at y dull o gynhyrchu
a meddiannu cynnyrch y meddwl. Megis yr ymddengys dinistr eiddo dosbarth,
o safbwynt y bwrgeisiwr, yn ddinistr cynnyrch fel y cyfryw, felly'n union
yr ymddengys dinistr diwylliant dosbarth yn gyfystyr â dinistr diwylliant
yn gyffredinol.
I'r mwyafrif mawr, nid yw'r diwylliant y galara ef oherwydd ei golli, yn ddim
ond hyfforddiant mewn trin peiriant.
Eithr na chynhennwch â ninnau, a chwithau'n mesur dinistr eiddo bwrgeisiol
â llinyn mesur eich syniadau bwrgeisiol chwithau am ryddid, diwylliant,
a chyfiawnder. Y mae hyd yn oed eich syniadau yn gynnyrch y dull bwrgeisiol
o gynhyrchu a pherchnogi eiddo, megis y mae eich cyfraith hithau yn ddim ond
ewyllys eich dosbarth wedi ei dyrchafu'n ddeddf, ewyllys y penderfynir ei
chynnwys gan yr anghenion materol sy’n anhepgor i fywyd eich dosbarth.
Y mae'r safbwynt hunanol a wêl ddeddfau tragywydd natur a rheswm yn
eich dulliau cynhyrchu chwithau a'ch dulliau chwithau o ddal eiddo - dulliau
hanesyddol a ânt heibio gyda datblygiad cynnyrch - y mae’r safbwynt
hwn yn un a goleddwyd gan bob dosbarth a fu'n llywodraethu o'ch blaen. Yr
hyn a gydnabyddwch am eiddo yn yr hen oesoedd, a'r hyn a gydnabyddwch am eiddo
ffiwdal, ni feiddiwch chwi mwyach ei gydnabod eiddo cyfalafol.
Dileu'r teulu! Fe ffroma hyd yn oed y mwyaf radical wrth y bwriad gwaradwyddus
hwn o eiddo'r Comiwnyddion.
Ar ba beth y seilir y teulu presennol, y teulu bwigeisiol? Ar gyfalaf, ar
elw preifat. Y mae'n bod yn ei lawn dwf ymhlith y bwrgeiswyr un unig, eithr
gan gael ei gwpláu gan ymddatodiad anorfod y teulu ymhlith y proletatwyr,
a chan buteindra cyhoeddus.
Fe ddiflanna'r teulu bwrgeisiol yn naturiol pan ddiflanna'r pethau hyn sy'n
mynd law yn llaw ag ef, ac fe ddiflannant oll pan ddiflanna cyfalaf.
A gyhuddwch chwi ni o geisio rhwystro ecsploitio plant gan eu rhieni? Fe gyfaddefwn
ein bod yn euog o'r trosedd hwn.
Ond, meddech chwi, fe ddinistriwn y berthynas fwyaf gysegredig pan osodwn
addysg gymdeithasol yn lle addysg yr aelwyd.
Ac oni phenderfynir eich addysg chwithau hefyd gan gymdeithas, gan yr amgylchiadau
cymdeithasol yr addysgwch danynt, gan ymyrraeth uniongyrchol neu anuniongyrchol
cymdeithas, trwy gyfrwg ysgolion, etc.? Nid y
Comiwnyddion a
ddyfeisiodd ymyrraeth cymdeithas mewn addysg, fe geisiant yn unig newid ei
ansawdd ac achub addysg rhag dylanwad y dosbarth llywodraethol.
Y mae'r brygawthach bwrgeisiol ynglyn â'r teulu ac addysg, ynglyn â'r
berthynas gysegredig rhwng plant a'u rhieni, yn mynd gymaint yn fwy cyfoglyd
po fwyaf y difetha'r diwydiant mawr bob rhwymau teuluol ymhlith y proletarwyr,
ac y troir plant yn ddim ond offer llafur a nwyddau'r farchnad.
Eithr fe sefydlech chwi'r Comiwnyddion gyd-feddiant gwragedd, llefa'r bwrgeiswyr
i gyd yn un côr yn ein herbyn.
Fe wêl y bwrgeisiwr yn ei wraig offeryn cynhyrchu yn unig. Clyw fod
yr offer cynhyrchu i'w hecsploitio'n gyffredin, ac, yn naturiol, ni eill lai
na chredu fod y dynged o gyd-feddiant yn aros y gwragedd yr un fath.
Ni eill hyd yn oed ddyfalu mai’r amcan yn union ydyw dileu'r sefyllfa
lle nad yw gwragedd yn ddim ond offer cynhyrchu yn unig.
Am y gweddill, nid oes dim yn fwy chwerthynllyd nag arswyd goruwchfoesol ein
bwrgeiswyr tuag at y cyd-feddiant gwragedd yr honnir y sefydlir ef yn agored
gan y Comiwnyddion. Ni raid i'r Comiwnyddion sefydlu cyd-feddiant gwragedd;
y mae'r peth wedi bodoli bron er cyn cof.
Y mae ein bwrgeiswyr, na fodlonant ar gael gwragedd a merched y proletarwyr
i’w gwasanaeth, heb son am buteiniaid swyddogol, yn darganfod yr hyfrydwch
pennaf mewn denu eu gwragedd ei gilydd.
Cyfundrefn cyd-feddiant gwragedd, mewn gwirionedd, ydyw'r briodas fwrgeisiol.
Ar y mwyaf, ni ellid cyhuddo'r Comiwnyddion ond o ddymuno sefydlu cyd-feddiant
gwragedd fel cyfundrefn swyddogol ac agored, yn lle'r gyfundrefn gudd a rhagrithiol
bresennol. Am y gweddill, y mae'n hunan-amlwg fod dileu'r gyfundrefn gynhyrchu
bresennol yn rhwym o ddileu'r gyfundrefn o gyd-feddiant gwragedd sy'n deillio
ohoni, hynny yw puteindra, swyddogol ac answyddogol.
Fe gyhuddir y Comiwnyddion ymhellach o ddymuno difodi'r genedl a chenedlaetholdeb.
Nid oes gan y gweithwyr unrhyw genedl. Ni ellir dwyn oddi arnynt yr hyn na
fu ganddynt. Gan ei bod yn rhaid i'r proletariat yn gyntaf ennill rheolaeth
wleidyddol, sef, ei ddyrchafu ei hunan yn brif ddosbarth y wlad a'i sefydlu
ei hunan yn enw'r genedl, y mae eto'n genedlaethol, eithr nid yn yr ystyr
fwrgeisiol i'r gair.
Y mae gwahaniaethau cenedlaethol a gelyniaeth cenhedloedd eisoes yn difilannu
fwyfwy yn wyneb datblygiad y bwrgeisiaid, yn wyneb rhyddid masnach, y farchnad
fyd, unffurfiaeth cynhyrchu diwydiannol, a’r amgylchiadau bywyd sydd
yn unol â hwynt.
Pan rheolaeth y proletariat iddynt ddiflannu'n gyfymach fyth. Y mae gweithredu'n
unedig ymhlith y gwledydd gwâr o leiaf, yn un o anhepgorion pennaf ei
ymryddhad.
I'r graddau y dileir ecsploitio'r naill unigolyn gan y llall, fe ddileir hefyd
ecsploitio'r naill genedl gan genedl arall.
Pan ddiflanna'r rhwyg rhwng dosbarthiadau y tu mewn i'r genedl, fe ddiflanna'r
elyniaeth rhwng y cenhedloedd hwythau.
Nid yw'r cyhuddiadau a ddygir yn erbyn y Comiwnyddion o safbwynt crefydd ac
athroniaeth, ac o safbwynt ideolegol yn gyffredinol, yn haeddu ymdriniaeth
ddim pellach.
A oes raid wrth
weledigaeth ddofn i sylweddoli bod cyfnewidiadau mewn dull dynion o fyw, cyfnewidiadau
yn eu hamgylchiadau cymdeithasol a'u bywyd cymdeithasol, yn peri cyfnewidiadau
hefyd yn eu syniadau, eu hamgyffred, a'u dealltwriaeth - yn eu holl ymwybyddiaeth,
mewn gair?
Pa beth y mae hanes syniadau yn ei brofi onid hyn, sef, bod cynnyrch y meddwl
yn ymgyfnewid gyda phob cyfnewidiad mewn cynnyrch materol? Syniadau'r dosbarth
llywodraethol erioed fu syniadau llywodraethol yr oes.
Pan sonir am syniadau yn chwyldroi cymdeithas yn gyfangwbl, cyfeirir yn unig
at y ffaith fod elfennau'r gymdeithas newydd wedi eu ffurfio y tu mewn i'r
hen gymdeithas, a bod ymddatodiad yr hen syniadau yn cyd-redeg ag ymddatodiad
yr hen gymdeithas.
Pan oedd yr hen fyd ar ddarfod amdano, gorchfygwyd yr hen grefyddau gan y
grefydd Gristnogol. Pan ddisodlwyd syniadau Cristnogol yn y ddeunawfed ganrif
gan syniadau'r Amlygiad (Enlightenment) fe ymladdodd y gymdeithas ffiwdal
ei brwydr farwol hithau â bwrgeiswyr chwyldroadol yr oes. Ni wnaeth
y syniadau am ryddid crefydd a rhyddid cydwybod ond mynegi goruchafiaeth cystadleuaeth
rydd ym myd gwybodaeth.
"Ond,” fe ddywedir, "..newidiodd syniadau crefyddol, moesol,
athronyddol, gwleidyddol, cyfreithiol, etc., yn ddiamau yng nghwrs datblygiad
hanes. Eithr fe oroesodd crefydd, moesoldeb, athroniaeth, gwleidyddiaeth,
a chyfraith yr holl gyfnewidiadau hyn.
~ "Gyda hynny, y mae, yna wirioneddau tragwyddol, megis rhyddid, cyfiawnder
etc., sy'n gyffredin i bob cyflwr ar gymdeithas. Eithr fe ddilea Comiwnyddiaeth
y gwirioneddau tragwyddol, difoda grefydd a moesoldeb yn lle'u hailadeladu
o'r newydd. Y mae felly'n gwrthddweud holl ddatblygiad hanes fel y bu hyd
yn hyn.”
Beth yn y bôn ydyw swm a sylwedd y gwrthwynebiad hwn ? Fe ddatblygodd
hanes pob cymdeithias hyd yn hyn trwy gyfrwng gwrthddywediadau dosbarth, gwrthddywediadau
o ffurf wahanol mewn gwahanol gyfnodau.
Eithr pa ffurf bynnag a gymerwyd ganddynt, bu ecsploitio'r naill ran o gymdeithas
gan y llall yn un o’r ffeithiau a fu'n gyffredin i bob canrif a aeth
heibio. Nid oes ryfedd, felly, i ymwybyddiaeth gymdeithasol pob canrif, er
ei hamrywiaeth a'i gwahaniaethau, ymsymud trwy gyfrwng syniadau o ffurf gyffelyb,
a thrwy gyfrwng ffordd o feddwl nas dileir yn llwyr oni ddileir gwrthddywediadau
dosbarth yn gyfangwbl.
Fe olyga chwyldro Comiwnyddol ymwrthod yn sylfaenol â'r dulliau traddodiadol
o berchnogi eiddo; nid yw'n beth rhyfedd yr ymwrthodir yn sylfaenol yng nghwrs
ei ddatblygiad â'r syniadau traddodiadol.
Ond rhown y gorau i wrthwynebiadau’r bwrgeiswyr i Gomiwnyddiaeth.
Fe welsom uchod mai'r cam cyntaf yn chwyldro'r gweithwyr ydyw sefydlu'r proletariat
yn ddosbarth llywodraethol, ac ennill y frwydr dros ddemocratiaeth.
Ar gyfer hynny, fe ddefnyddia'r proletariat ei unbennaeth wleidyddol i ddwyn
oddi ar y bwrgeisiaid o dipyn i beth eu holl gyfalaf, i ganoli'r moddion cynhyrchu
yn nwylo'r wladwriaeth – hynny yw, y proletariat a ddyrchafwyd yn ddosbarth
llywodraethol – ac i gynyddu maint y galluoedd cynhyrchu cyn gyflymed
ag y bo'n bosibl.
Ar y dechrau, yn naturiol, ni ellir gwneud hyn ag eithrio trwy ymyrryd yn
dra awdurdodol ar hawliau eiddo ac ar ddulliau cynhyrchu cyfalafol, trwy gyfrwng
mesurau, felly sy'n ymddangos o safbwynt economaidd yn anghyfaddas ac ansafadwy,
eithr mesurau sy’n eu gor-redeg eu hunain yng nghwrs y mudiad, a mesurau
sy’n anochel fel cyfrwng i chwyldroi'r dulliau cynhyrchu yn eu cyfanrwydd.
Fe fydd y mesurau hyn, yn naturiol, yn wahanol mewn gwahanol wledydd.
Yn y gwledydd blaenaf, er hynny, fe eill y mesurau a ganlyn fod o ddefnydd
gweddol gyffredin.
1. Dileu tirfeddiant
a defnyddio rhent tir ar gyfer treuliau'r wladwriaeth.
2. Treth drom gynyddol ar incwm.
3. Diddymu hawliau etifeddiaeth.
4. Dadfeddiannu emigreaid a gwrthryfelwyr o’u heiddio.
5. Canoli credyd yn nwylo'r wladwriaeth trwy gyfrwng banc cenedlaethol ynghyd
â chyfalaf cenedlaethol a monopôl cyflawn.
6. Canoli'r gyfundrefn drafnidiaeth yn nwylo'r wladwriaeth.
7. Amlhau nifer y ffatrïoedd cenedlaethol a'r offer cynhyrchu, trin tir
segur, a gwella ystadau ar sail cynllun holl-gynhwysfawr.
8. Cyfartalu dyletswyddau gwaith ar bawb, sefydlu byddinoedd diwydiannol,
yn enwedig ar gyfer amaethyddiaeth
9. Cyfuno trefniant amaethyddiaeth a diwydiant, a gweithio i ddileu'n raddol
y gwahaniaethau rhwng gwlad a thref.
10. Addysg rydd a chyhoeddus ar gyfer pob plentyn. Dileu llafur plant mewn
ffatrïoedd yn ei ffurf bresennol. Cysylltu addysg â'r dulliau materol
o gynhyrchu, etc.
Pan ddiflanna. gwahaniaethau dosbarth yng nghwrs datblygiad, a phan ganolir
cynhyrchu yn gyfangwbl yn nwylo'r gymdeithas o unigolion, fe gyll y grym cyhoeddus
ei agwedd wleidyddol. Nid yw grym gwleidyddol, yng ngwir ystyr y gair, ond
gallu trefnedig un dosbarth i orthrymu dosbarth arall. Pan ymuna'r proletarwyr
o anghenraid yn un dosbarth yn ystod eu brwydr yn erbyn y bwrgeiswyr, pan
ddyrchrafant eu hunain trwy chwyldro yn ddosbarth llywodraethol, a phan ddilea
yntau fel dosbarth llywodraethol yr hen ddulliau cynhyrchu, yna fe ddilea,
ynghyd â'r dulliau cynhyrchu hynny, hanfodion bodolaeth gwrthddywediadau
dosbarth, dosbarthiadau yn gyffredinol, a chyda hwy ei unbennaeth ei hunan
fel dosbarth.
Yn lle’r hen gymdeithas gyda'i dosbarthiadau a'i brwydrau dosbarth,
fe ymgyfyd cymdeithas lle y bydd datblygiad rhydd yr unigolyn yn sylfaen datblygiad
rhydd i bawb.
III
LLENYDDIAETH SOSIALAIDD A CHOMIWNYDDOL
1. Sosialaeth Adweithiol
(a) Sosialaeth Ffiwdal
Oherwydd safle hanesyddol
y bendefigaeth yn Ffrainc ac yn Lloegr, bu’n rhan o’i galwedigaeth
i ysgrifennu pamffledi yn erbyn y fwrgeisiaeth. Yn Chwyldro Gorffenaf 1830
yn Ffrainc ac ym mudiad y Diwygiad Gwleidyddol yn Lloegr, ymostyngasant unwaith
eto i’r newydd-gyfodiaid atgas. O hynny ymlaen, yr oedd brwydr wleidyddol
yn amhosibl; brwydr lenyddol yn unig oedd ar ôl. Ond hyd yn oed ym myd
llenyddiaeth ni wnâi hen frawddegau cyfnod yr Adferiad ddim o’r
tro. Er mwyn ennyn cydymdeimlad yr oedd yn rhaid i’r bendefigaeth cymryd
arni golli golwg ar ei buddiannau ei hunan, a chario’i hymosodiad yn
erbyn y bwrgeisiaid en enw dosbarth gweithiol gorthrymedig. Felly, fe geisiodd
dalu’r pwyth trwy oganu ei meistr newydd a sibrwd proffwydolinaethau
mwy neu lai trychinebus yn ei glyw.
Felly y cyfododd Sosialaeth ffiwdal; rhyw hanner galargan a hanner gogangerdd;
hanner hiraeth am y gorffennol a hanner bygythiad am y dyfodol; weithiau clwyfo’r
bwrgeiswyr hyd waelod y galon gan ei beirniadaeth chwerw, ddoniol, a phigog,
eithr o hyd yn chwerthinllyd ddieffaith oherwydd ei hanallu llwyr i ddeall
cyfeiriad hanes modern.
Er mwyn denu’r bobl ar ei hôl chwifiai’r bendefigaeth ysgrepan
gardod y proletariat fel lluman o’i blaen, eithr cyn gynted ag yr âi
neb i’w dilyn, fe welai ar ei phen ôl yr hen bais arfau ffiwdalaidd,
ac ymadawai gan chwerthin yn ddirmygus a dilywodraeth.
Rhoes nifer o’r Cyfreithlonwyr Ffrengig a Young England enghreifftiau
o’r chwarae hwn ar ei orau.
Pan ddengys y landlordiaid fod yn dull hwy o ecsploitio dynion yn wahanol
i ddull y brwgeiswyr, fe anghofiant eu bod hwy’n ecsploitio dan amgylchiadau
cwbl wahanol, ac amgylchiadau sydd bellach wedi darfod. A phan brofant ymhellach
nad oedd y proletariat modern yn bod dan eu rheolaeth hwy, fe anghofiant fod
hyd yn oed y bwrgeiswyr yn un o hil anochel eu ffurf hwy ar gymdeithas.
Am y gweddill, fe guddiant ansawdd adweithiol eu beirniadaeth mor lleied nes
mynd o’u prif gwyn yn erbyn y bwrgeiswyr yn ddim ond hyn, bod dosbarth
yn datblygu dan eu rheolaeth syn rhwym o ddryllio’r hen gyfundrefn gymdeithasol.
Y maent yn trîn a thrafod y bwrgeiswyr nid yn gymaint am eu bod yn creu
proletarwyr, eithr am eu bod yn creu proletarwyr chwyldroadol.
Yn wledyddol ymarferol, felly, cynorthwyant bob mesur gorfodaeth yn erbyn
y dosbarth llafur, ac ymostyngant yn eu bywyd beunyddiol, er gwaethaf eu brawddegau
uchelwyntog, i loffa’r tywysennau yd o faes diwydiant, a marchnata’r
gwirionedd, cariad, ac anrhydedd er mwyn y traffig mewn gwlan a betys a gwirod.
Megis yr aeth y offeiriad erioed law yn llaw â’r landlordiaid,
felly yr aeth Sosialaeth Gleriog lawlaw â’r Sosialaeth ffiwdal.
Nid oes dim y haws na rhoi arlliw Sosialaeth ar hunan-ymwadiad Cristnogol.
Oni thaerodd Cristnogaeth hithau yn erbyn eiddo personol, yn erbyn priodas
a’r wladwriaeth? Oni phregethodd yn hytrach weithredoedd da ac elusengarwch,
bywyd dibrïod a marweiddio’r cnawd, bywyd mynachlog a’r eglwys?
Nid yw Sosialaeth Gristnogol namyn y dwfr santaidd a ddefnyddia’r offeiriad
i gysegru gwae calon yr aristocrat.
(b) Sosialaeth Fân-Fwrgeisiol
Nid y bendefigaeth ffiwdal
yw’r unig dosbarth a ddymchwelir gan y bwrgeisiaid, ac y perir i‘w
foddion cynhaliaeth wywo a marw yn y gymdeithas gyfalafol fodern. Bwrdeiswyr
y dosbarth canol a’r mân dyddynwyr ydoedd rhagflaenwyr y bwrgeiswyr
modern. Yn y gwledydd hynny lle na ddatblygodd diwydiant a masnach ond yn
brin, bu’r dosbarthiadau hyn byth yn rhygnu byw ochr yn ochr â’r
bwrgeiswyr.
Mewn gwledydd lle y datblygodd gwareiddiad modern, fe ddatblygodd dosbarth
mân-fwrgeisiol newydd, sy’n anwadalu rhwng y proletariat a’r
bwrgeiswyr, ac yn ei adnewyddu ei hunan beunydd fel darn cyflenwol o’r
gymdeithas fwrgeisiol. Eith trwy gyfrwng cystadleuaeth fe hyrddir ei aelodau
i lawr yn gyson i blith y proletarwyr, ac oherwydd datblygiad y diwydiant
mawr fe welant y dydd yn dyfod pan ddinistrir hwynt yn lwyr fel darn annibynnol
o’r gymdeithas fodern, a pahan ddisodlir hwynt gan oruchwylwyr a stiwardiaid
mewn masnach, diwydiant ac amaethyddiaeth.
Mewn gwledydd fel Ffrainc lle y ffurfia’r tyddynwyr fwy o lawer na hanner
y boblogaeth,yr oedd ynaturiol i ysgrifenwyr a ymladdai ran y proletarwyr
yn erbyn y bwrgeiswyr, ddefnyddio llinyn mesur y mân berchnogion a’r
mân dyddynwyr wrth feirniadu rheolaeth y bwrgeisiaid ac achub rhan y
gweithwyr o safbwynt y mân-fwrgeiswyr. Felly y cyfododd Sosialaeth y
mân-fwrgeisiaid. Sismondi ydoedd pennaeth y llenyddiaeth hon, nid yn
unig yn Ffrainc eithr yn Lloegr hefyd.
Fe dadansoddidd yr ysgol hon yn y modd mwyaf treiddgar y gwrthddywediadau
yn y dulliau cynhyrchu modern. Fe ddinoethodd amdiffyniad rhagrithiol yr economyddion.
Fe brofodd y tu hwnt i bob amheuaeth effeithiau dinistriol peiriannau a rhannu
gwaith, canoli meddiant tir a chyfalaf, gorgynhyrchu ac argyfyngau. Fe ddangosodd
ddinistr anochel y cyfalafydd bach a’r tyddynnwr, dlodi’r gweithwyr,
anarchiaeth cynhyrchu, anghyfartaledd trychinebus dosbarthiad cyfoeth, rhyfel
diwydiannol dinistriol y cenhedloedd, ac ymddatodiad yr hen rwymau moesol,
yr hen berthynas deuluol, a’r hen genedlaetholdeb.
O safbwynt adeiladol, fe fynnai’r Sosialath hon y naill ai adnewyddu’r
hen gyfryngau cynhyrchu a chyfnewid, ac adnewyddu, felly, yr hen ffurf ar
berchnogaeth a chymdeithas, neu ynteu carcharu’r dulliau newydd o gynhyrchu
a chyfnewid y tu mewn i ffrâm yr hen ffurf-berchnogaeth, ffrâm
a ddrylliwyd – a hynny o reidrwydd – gan y dulliau newydd hyn.
Y mae’r naill ymgais mor adweithiol â’r llall, ac yn llawn
mor utopaidd.
Corfforaethau ar gyfer diwydiant a chyfundrefn batriarchaidd mewn amaethyddiaeth
– dyna’i geiriau olaf.
Ym man eithaf ei datblygiad rhoes y Sosialaeth hon y ffidil yn y tô
mewn gwth o’r falen.
(b) Sosialaeth
Almaenydd neu’r “Wir” Sosialaeth
Ymgyfododd llenyddiaeth Sosialaidd a Chomiwnyddol Ffrainc dan orthrwm y fwrgeisiaeth
lywodraethol,ac nid oedd ond mynegiant llenyddol o’r frwydr yn erbyn
ei llywodraeth; eithr fe’i dygwyd i’r Almaen ar adeg pan oedd
brwydr y bwrgeiswyr ynerbyn yr unbennaeth ffiwdal newydd ddechrau.
Ymaflodd athronwyr, crachathronwyr, a gwyr ycheldrem yr Almaen yn eiddgar
yn y llenyddiaeth hon, eithr gan anghofio nad ymfudasai ffurfiau cymdeithasol
Ffrainc hwythau i’r Almaen yn sgil y llyfrau. Yn wyneb yr amgylchiadau
yn yr Almaen, fe gollodd y llenyddiaeth Ffrengig bob arwyddocâd ymarferol
uniongyrchol, a chymerodd arni ddelw hollol lenyddol. Ymddangosai, o anghenraid,
yn ddim ond myfyrdod academig ar y pwnc o sylweddoli natur dyn. I athronwyr
yr Almaen yn y ddeunawfed ganrif, felly, ni olygai gofynion y Chwyldro Mawr
yn Ffraic namyn gofynion y “Rheswm Ymarferol” yn gyffredinol,
ac ni arwyddai mynegiant ewyllys bwrgeiswyr chwyldroadol Ffrainc namyn deddf
yr ewyllys bur, yr ewyllys fel y mae’n rhaid iddi fod, y wir ewyllys
ddynol.
Gwaith neilltuol llenorion yr Almaen ydoedd cysoni’r syniadau Ffrengig
newydd â’u cywybod athronyddol draddodiadol, neu, a dweud yn gywirach,
atodi’r syniadau Ffrengig at eu safbwynt athronyddol eu hunain.
Gwnaethpwyd hyn yn union fell y byddys yn gyffredin yn mabwysiadu iaith estron,
hynny yw, trwy gyfieithu.
Y mae’n hsybys sut yr ysgrifennodd y mynachod fywgraffiadau ffôl
seintiau catholig ar draws y llawysgrifau yr ysgrifennwyd arnynt weithiau
clasurol y cyfnod paganaidd. Gwnaeth llenorion yr Almaen yn union i’r
gwrthwyneb â’r llenyddiaeth Ffrengig; ysgrifenasant eu cawdel
athronyddol y tu cefn i’r gwreiddiol. Er enghraifft, y tu cefn i’r
feirniadaeth Ffrengig ar y drefn ariannol, ysgrifenasant “alltudiaeth
natur dyn” a’r tu cefn i’r feirniadaeth ar wladwriaeth y
bwrgeiswyr, ysgrifenasant “dadorseddu rheolaeth cyffredinolion haniaethol”
etc.
I’r gyfundrefn hon o frawddegau athronyddol a ddyfeisiwyd i gynrychioli’r
datblygiadau Ffrengig, rhoesant yr enwau “Athroniaeth Gweithrediad,”
“Gwir Sosialaeth,” “Gwyddor Sosialaeth Almaenaidd,”
“Sylfaen Athronyddol Sosialaeth,” ac felly ymlaen.
Felly yr amddifadwyd yn llwyr o’i chynwys lenyddiaeth Sosialaidd a Chomiwnyddol
Ffrainc. A chan iddi, yn nwylo’r Almaenwr, beidio â bod yn arwydd
o frwydr y nail ddosbarth yn erbyn y llall, fe deimlai yntau ei fod wedi gorthfygu’r
“unochredd Ffrengig,” a’i fod yn cynrychioli nid gwir angenrheidiau
yn gymaint ag anghenreidiau’r gwir, nid lles y proletariat yn gymaint
â lles natur dyn – y dyn diddosbarth sy’n perthyn i hud
a lledrith dychymyg athronyddol ac nad oes ganddo fodolaeth yn unman.
Eithr fe gollodd y Sosialaeth Almaenaidd yn raddol bach ei diniweidrwydd pedantig
– hithau’r Sosialaeth Almaenaidd a dderbyniodd ei gorchwyl bachgennaidd,
lletchwith, mor ddifrifol a pharcus-ofnadwy, ac a ddechreuodd ei gyrfa gyda’r
fath rodres arwynebol.
Fe ddaeth brwydr bwrgeiswyr yr Almaen, sef bwrgeiswyr Prwsia, yn erbyn y ffiwdalwyr
a’r frenhiniaeth ddiamodol – hynny yw, y mudiad Rhyddfrydol –
yn fwy difrifol.
Dyna gyfle ardderchog i’r “Wir” Sosialaeth ddwyn hawliau
Sosialaidd gerbron y mudiad gwleidyddol, ac i hyrddio’r melltithion
traddodiadol yn erbyn y Rhyddfrydwyr, llywodraeth seneddol, cystadleuaeth
fwrgeisiol, rhyddid gwasg bwrgeisiol! Dyna’r cyfle i bregethu i’r
lluoedd o’r bobl nad oedd ganddynt ddim i’w ennill, eithr llawer
i’r golli, wrth y mudiad bwrgeisiol hwn! Y pryd hynny’n union,
fe angofiodd Sosialaeth yr Almaen fod y feirniadaeth Ffrengig a adleisiai
hithau mor ddi-ysbryd, yn rhagdybio’r gymdeithas fwrgeisiol fodern,
ynghyd ag amgylchiadau materol cyfatebol a chyfansoddiad gwleidyddol cyfaddas
– yr amodau’n union yr oedd yn rhaid ymladd yn yr Almaen er mwyn
eu sefydlu.
I’r llywodraethau diamodol yn yr Almaen, gyda’u gosgorddion o
offeiriaid, ysgolfeistri, ysweiniaid, a swyddogion, fe wasanaethodd y Sosialaeth
hon yn dra chyfleus fel bwbach brain rhag y fwrgeisiaeth a oedd yn ymgyfodi.
Yr oedd yn atodiad melys, hefyd, at y chwipiau a’r bwledi chwerwon a
ddefnyddiodd y cyfryw lywodraethau i ateb gwrthryfeloedd gweithwyr yr Almaen.
A hithau’r “Wir” Sosialaeth yn arf yn nwylo’r llywodraethau
yn erbyn y bwrgeiswyr, fe gynrychiolai’n uniongyrchol hefyd diddordebau
adweithiol, mân-fwrgeiwyr philistaidd yr Almaen. Yn yr Almaen, fe ffurfia’r
dosbarth mân-fwrgeisiol a draddodwyd i lawr o’r unfed ganrif ar
bymtheg, ac a adnewyddodd ei hunan ar wahanol ffurfiau byth wedyn, sylfaen
gymdeithasol hanfodol y gyfundrefn bresennol.
Y mae achub y dosbarth hwn yn gyfystyr ac achub cyflwr presennol cymdeithas
yn yr Almaen. Y mae blaenoriaeth ddiwydiannol a gwleidyddol y bwrgeiswyr yn
bygwth ei ddinistrio’n anochel, trwy ganoli cyfalaf ar y naill law,
a thrwy ddatblygu proletariat chwyldroadol ar y llaw arall. Eithr ymddangosai’r
“Wir” Sosialaeth i’r dosbarth hwn fel pe bai’n lladd
y ddau aderyn ar un ergyd. Aethai hithau ar led fel epidemig.
Bu’r fantell afradlon y rhwymai Sosialwyr yr Almaen eu hychydig “wirioneddau
tragwyddol,” esgyrnog, ynddi – mantell a wewyd o rwydwaith o anturddamcanion,
a frodiwyd â blodau rhetoreg pert, ac a drwythwyd mewn gwlith o sentiment
clafychlyd – bu hithau hefyd yn gymorth iddynt werthu eu nwyddau ymhlith
y cyfryw gyhoedd.
O’r rhan ei hunan, hefyd, fe gydnabyddai’r Sosialaeth Almaenaidd
fwyfwy ei galwedigaeth fel cynrychiolydd bombastig philisitiaid y dosbarth
canol.
Cyhoeddodd mai’r genedl Almaenaidd oedd y genedl safonol, a’r
philistiad o’r Almaenwr y gwir ddyn. I bob bychandra o’i eiddo
rhoes ystyr ddirgel, aruchel, a Sosialaidd, yn gwbl groes i’r hyn ydoedd
mewn gwirionedd. Fe gyrhaeddodd ei therfynau rhesymegol pan ymosododd yn uniongyrchol
ar duedd “greulon-ddinistriol” Comiwnyddiaeth, a chyhoeddi ei
haruchel ddiofalwch am bob brwydr rhwng y dosbarthiadau. Gyda rhai eithriadau
prin, fe berthyn y cyfan o’r llenyddiaeth a elwir yn Sosialaidd neu
Gomiwnyddol sy’n cylchredeg yn yr Almaen yn awr, i’r crynswth
o lenyddiaeth budr, diymadferth hwn(5).
2. Sosialaeth Gweidwadol neu Sosialaeth Fwrgeisiol
Y mae nifer o’r
bwrgeiswyr yn awyddus i unioni camweddau cymdeithasol er mwyn sicrhau einioes
ddiddarfod i’r gymdeithas gyfalafol.
I’r nifer hwn yn perthyn yr economyddion a’r dyngarwyr, gwellianwyr
safonau’r dosbarth llafur, trefnyddion elusen, aelodau cymdeithasau
eu rhwystro creulondeb tuag at anifeiliaid, sylfaenwyr undebau dirwest a diwygwyr
twll-a-chornel o bob math. Ac fe ymgorfforwyd y Sosialaeth fwrgeisiol hon
hefyd mewn nifer systemau holl-gynhwysfawr.
Fe allwn nodi fel enghraifft waith Proudhon, Philosophie de la Misère
(Athroniaeth Tlodi).
Fe ddymuna’r bwgeiswyr Sosialaidd gadw manteision y gymdeithas fodern,
eithr heb y brwydrau a’r peryglon sy’n deillio’n anochel
ohoni. Dymunant gadw cyflwr presennol cymdeithas heb yr elfennau sy’n
ei chwyldroi ac yn ei datod. Dymunant ddosbarth bwrgeisiol heb ddosbarth proletaraidd.
Fe ddeil y bwrgeiswyr, yn naturiol, mai’r byd gorau yw’r byd y
maent hwy’n ei reoli; ac fe ddatblygodd y Sosialaeth fwrgeisiol y syniad
cysurus hwn, fwy neu lai, yn gyfundrefn gyfan o athroniaeth. Pan eilw ar y
proletariat i weithredu ei system ac ymuno â’r Gaersalem Newydd,
geilw arnynt yn unig, yn y gwraidd, i aros o fewn cyffiniau’r gymdeithas
bresennol, eithr gan daflu o’r neilltu eu syniadau atgas am y bwrgeiswyr.
Y mae yna ail fath o Sosialaeth, llai systematig a mwy ymarferol, sy’n
ceisio bychanu gerbron y gweithwyr bob mudiad chwyldroadol, gan ddangos na
eill y cyfnewidiad hwn neu’r cyfnewidiad arall mewn gwleidyddiaeth fod
o unrhyw fantais iddynt, ac mai cyfnewidiadau yn nhrefniant materol bywyd
yn unig a eill fod o unrhyw help iddynt. Eithr wrth gyfnewidiadau yn nhrefniant
materol bywyd ni olyga’r Sosialaeth hon ar un cyfrif ddinistr y dulliau
bwrgeisiol o gynhrychu, nas sicrheir ac eithrio mewn modd chwyldroadol, eithr
gwelliannau mewn gweinyddiaeth y gellir eu datblygu ar sail y dulliau cynhyrchu
presennol, gwelliannau, felly, na wnânt, ar y gorau ond lleihau cost
eu rheolaeth i’r bwrgeiswyr, a symleiddio’u trefniadau cyllidol.
Fe gyrhaedda’r Sosialaeth fwrgeisiol eu llawn fynegiant pan dry’n
ffurf o ymadrodd yn unig.
Rhyddid masnach! er lles y dosbarth llafur; diffyndollau! er lles y dosbarth
llafur; gwell carcharau! – er lles y dosbarth llafur; dyna eiriau olaf
y Sosialaeth fwrgeisiol, a’r unig eiriau y bwriedir ganni eu cymryd
o ddifrif.
Fe ellir crynhoi Sosialaeth y bwrgeiswyr i un frawddeg, sef, mai bwrgeiswyr
ydyw’r bwrgeiswyr – er lles y dosbarth llafur.
3. Sosialaeth a Chomiwnyddiaeth Utopaidd-feirniadol
Ni soniwn yma am y llenyddiaeth
a fu ym mhob chwyldro mawr diweddar yn mynegi gofynion y proletariat (gweithiau
Babeuf etc).
Bu i ymdrechion
y proletariat i sicrhau’n uniongyrchol fuddiannau eu dosbarth eu hunain,
ymddangos am y tro cyntaf mewn oes o gyffro cyffredinol yng nghyfnod dinistr
y gymdeithas ffiwdal. Fe fethodd yr ymdrechion hyn, o anghenraid, oherwydd
cyflwr annatblygedig y proletariat ei hunan, ac oherwydd prinder cymwysterau
materol ei ymryddhad, cymwysterau sydd bellach yn un o gynhyrchion y cyfnod
bwrgeisiol. Yr oedd y llenyddiaeth chwyldroadol a gyd-ddigwyddai â’r
mudiadau cyntaf hyn o eiddo’r proletariat, o anghenraid, yn llenyddiaeth
adweithiol o ran ei chynnwys. Pregethai wrth-hunanles (asceticism) cyffredinol
a chdraddoldeb cydeithasol amrwd.
Fe ymdangosodd y systemau gwir Sosialaidd a Chomiwnyddol, megis systemau Saint-Simon,
Fourier, wen etc, yn ystold cyfnod annatblygedig y frwydr rhwng y proletariat
a’r bwrgeiswyr a ddisgrifwyd gennym uchod. (Gweler: Y Bwrgeiswyr a’r
Proletariat).
Fe wêl sylfaenwyr y systemau hyn, yn wir, wrthdarawiad y dosbarthiadau,
yn ogystal â gwaith yr elfennau datodol y tu mewn i’r gymdeithas
bresennol ei hunan, eithr ni welant ymhlith y proletarwyr unrhyw ymweithrediad
o bwys hanesyddol, nac unrhyw fudiad gwleidyddol priodol iddynt eu hunain.
Oherwydd bod datblygiad gwrthdarawiadau dosbarth yn dilyn gam a cham â
datblygiad diwydiant, ymddengys iddynt hwy fod amgylchiadau materol ymrhyddhad
y proletariat yn brin odiaeth, a cheisiant, felly, wyddor a rheolau cymdeithasol
a eill greu’r amgylchiadau hyn.
Rhaid i’w gweithred bersonol ddyfeisgar eu hunain gymryd lle gweithred
cymdeithas, rhaid i amodau lledrithiol ymryddhad ddisodli amodau hanes, a
rhaid i drefniant cymdeithas yn ôl eu mympwy eu hunain gymryd lle trefniant
graddol, gwirfoddol, y proletariat fel dosbarth. Iddynt hwy, hanes y byd yn
y dyfodol ydyw hanes lledaenu propaganda a gweithredu yn ôl eu cynlluniau
cymdeithasol hwy.
Yn eu cynlluniau, yn wir, y maent yn ymwybodol eu bod cyn cynrychioli byuddiannau’r
dosbarth mwyaf hirymarhous, sef, y dosbarth llafur. Unig arwyddocâd
y proletariat iddynt hwy, felly, yw mai ef ydyw’r dosbarth mwyaf hirymarhous.
Y mae ffurf annatblygedig y frwydr dosbarth, yn ogystal ag amgylchiadau eu
bywyd beunyddiol eu hunain, yn peri i’r Sosialwyr hyn gredu iddynt ymgyfodi
ymhell uwchlaw brwydr o’r fath. Dymunant wella safon byw pob aelod o
gymdeithas, hyd yn oed safon y mwyaf cefnog. Fe apeliant o hyd, felly, at
gymdeithas yn gyffredinol ac at bob dosbarth yn ddiwahaniaeth – yn wir,
apeliant yn bennaf at y dosbarth llywodraethol. Oblegid ni raid i neb namyn
deall eu system hwy i gydnabod mai hi yw’r drefn orau oll ar y gymdeithas
orau sy’n bosibl.
Ymwrthodant â phob gwaith gwleidyddol, sef, gwaith chwyldroadol. Fe
fynnant gyrraedd eu hamcanion mewn modd heddychol, a cheisiant, felly, baratoi’r
ffordd i’r efengyl gymdeithasol newydd trwy gyfrwng esiampl, a thrwymân
arbrofion na allant, a anghenraid, lai a methu.
Fe ymgyfododd y portread ffansïol hwn o gymdeithas y dyfodol ar adeg
pan oedd y proletariat eto’n ddosbarth pur annatblygedig, ac yn coleddu,
o ganlyniad, syniadau lledrithiol am ei safle ei hunan, eithr yn gweld hefyd
argoelion cyntaf trawsffurfiad cyffredinol cymdeithas.
Eto i gyd, fe gynnwys yr ysgrifeniadau Sosialaidd a Chomiwnyddol hyn elfen
feirniadol hefyd. Ymosodant ar sylfeini’r gymdeithas bresennol yn gyfangwbl.
Ceir ynddynt, felly, fater sydd o’r gwerth mwyaf i oleuo’r gweithiwr.
Am eu cynigion adeiladol ar gyfer cymdeithas y dyfodol, megis dileu’r
gwrthddywediad rhwng gwlad a thref, dileu’r teulu, proffid, a chyflog-wasanaeth,
cyhoeddi cytgord cymdeithasol, a throi’r wladwriaeth yn oruchwyliwr
y proses cynhyrchu yn unig – ni olyga’r rhain oll ddim namyn diflaniad
gwrthdarawiadau dosbarth, gwrthdarawiadau a oedd yn dechrau datblygu ar y
pryd ac yn adwaenid yn eu ffurfiau annelwig cyntaf yn unig. Eithr y mae hyd
yn oed i’r cynigion hyn hefyd, felly, ansawdd gwbl utopaidd.
Fe saif arwyddocâd y Sosialaeth a’r Gomiwnyddiaeth utopaidd-feirniadol
mewn gwrthgyfartaledd uniongyrchol, â datblygiad hanes. I’r graddau
yr ymgyfyd ac yn datblyga’r brwydrau rhwng y dosbarthiadau, fe gyll
y difrawder ffantastig hwn yn ynglyn â hwy, yn ogystal â’r
ymysodiadau mympwyol hyn arnynt, bob gwerth ymarferol a phob cyflawnhad damcaniaethol.
Er bod sylfaenwyr y systemau hyn, felly, yn chwyldrowyr mewn llawer modd,
fe ffurfiodd eu disgyblion sectau adweithiol bob tro. Daliant yn gyndyn at
ddaliadau gwreiddiol y tadau, er gwaethaf datblygiad hanesyddol y proletariat.
Fe geisiant yn wastad, felly, leddfu’r frwydr dosbarth a chymodi ei
gwrthddywediadau.
Breuddwydiant o hyd am sylweddoli eu hutopia gymdeithasol trwy arbrawf, trwy
sefydlu Phalanstères diarffordd, sefydlu Home Colonies neu blannu rhyw
Icaria fechan(6) – argraffiadau talfyredig o’r
Gaersalem Newydd. Ac er mwyn adeiladu’r cestyll hyn yn yr awyr y mae’n
rhaid iddynt apelio at ddyngarwch calon a phoced y bwrgeiswyr. Syrthiant gan
bwyll i’r dosbarth hwnnw o Sosialwyr adweithiol neu geidwadol a ddisgrifiwyd
uchod, gan eu gwahaniaethu eu hunain oddi wrthynt yn unig yn rhinwedd eu coeg-ddysgeidiaeth
fwy cyfundrefnus, a’u cred ddall, ofergoelus, yn effiethiau gwyrthiol
eu gwyddor gymdeithasol.
Fe wrthwynebant yn cherw, felly, bob mudiad gwleidyddol ar ran y gweithwyr,
na eill digwydd ac eithrio ar sail anghred noeth yn yr efengyl newydd.
Fe wrthwyneba dilynwyr Owen y Siartiaid yn Lloegr, a hwthau ddilynwyr Fourier
y Reformistes yn Ffrainc.
IV
SAFLE’R COMIWNYDDION YMHLITH Y GWRTHBLEIDIAU ERAILL
Wedi darllen Rhan II fe
ddeellir perthynas y Comiwnyddion â’r pleidiau llafur sydd eisoes
yn bod, a’u perthynas, felly, â’r Siartiaid yn Lloegr, a’r
Diwygwyr Amaethyddol yn America.
Ymladdant i sicrhau amcanion ac anghenion uniongyrchol a phresennol y dosbarth
llafur, eithr cynrychiolant yn y mudiad presennol ei fuddiannau am y dyfodol
hefyd. Yn Ffrainc, fe ymuna’r Comiwnyddion â’r Blaid Ddemocrataidd-Sosialaidd
yn erbyn y bwrgeisiaid radicalaidd a cheidwadol(7) ,
eithr heb roddi heibio’r hawl i feirnadu’r ymadroddion a’r
syniadau lledrithiol a fagodd traddodiad y Chwyldro.
Yn y Swistir fe gynorthwya’r Comiwnyddion y Radicaliaid, eithr gan gofio
fod y blaid hon yn cynnwys elfennau gwrthgyferbyniol, y naill ran ohoni’n
cynnwys Democratiaid-Sosialaidd yn yr ystyr Ffrengig, a’r rhan arall
yn cynnwys radicaliaid bwrgeisiol.
Ym Mhwyl fe gynorthwya’r Comiwnyddion y blaid a wêl mewn chwyldro
amaethyddol brif amod ymryddhâd cenedlaethol, sef, y blaid a anogodd
wrthryfel Cracoff yn 1846.
Yn yr Almaen fe ymladda’r Blaid Gomiwnyddol ochr yn ochr â’r
bwrgeiswyr, pryd bynnag y gweithreda’r bwrgeiswyr mewn modd chwyldroadol,
ac yn erbyn y frenhiniaeth ddiamodol, y tirfeddianwyr ffiwdal, a’r mân-fwrgeiswyr.
Eithr ni fethant am un eiliad feithrin yn y gweithwyr y gydnabyddiaeth egluraf
bosibl o’r elyniaeth rhwng y bwrgeiswyr a’r proletariat, er mwyn
i weithwyr yr Almaen fedru, ar unwaith, droi’r amgylchiadau cymdeithasol
a gwleidyddol y mae’n rhaid i’r bwrgeiswyr eu creu yn ystod eu
rheolaeth, yn gynifer o arfau yn erbyn y bwrgeiswyr, ac er mwyn i’r
frwydr yn erbyn y bwrgeiswyr eu hunain gychwyn yn union wedi cwymp y dosbarthiadau
adweithiol yn yr Almaen.
Try’r Comiwnyddion eu sylw at yr Almaen yn bennaf am fod yr Almaen yn
sefyll ar drothwy chlwydro bwrgeisiol, chwyldro a gyflawnir o dan yr amgylchiadau
llawer mwy blaen a berthyn i’r gwareiddiad Ewropeaidd yn gyffredinol
heddiw, a chyda phroletariat sy’n llawer mwy datblygedig nag eiddo Lloegr
yn yr ail ganrif ar bymtheg, a Ffrainc yn y ddeunawfed; ac am y geill chwyldro
bwrgeisiol yn yr Almaen, felly, fod yn ddim ond rhagflaenydd uniongyrchol
chwyldro proletaraidd.
Mewn gair, fe gynorthwya’r Comiwnyddion ym mhobman bob symudiad chwyldroadol
yn erbyn y drefn gymdeithasol a gwleidyddol bresennol.
Ym mhob un o’r mudiadau hyn fe bwysleisiant, ni waeth i ba raddau y
datblygodd, gwestiwn perchnogaeth eiddo megis prif gwestiwn y mudiad.
Yn olaf, fe weithia’r Comiwnyddion ym mhobman er mwyn uniolaeth a chyd-ddealltwriaeth
y pleidiau democrataidd ym mhob gwlad.
Y mae’n ffraidd gan y Comiwnyddion gelu eu credo a’u hamcanion.
Cyhoeddant yn agored na chyrhaeddir eu hamcanion oni ddymchwelir trwy rym
y gyfundrefn gydeithasol fel y bu yn gyfangwbl hyd yn hyn. Brawyched y dosbarthiadau
llywodraethol rhag chwyldro Comiwnyddol.
Nid
oes gan y proletarwyr ddim ond eu cadwynau i’w golli o’i blegid.
Y
mae ganndynt fyd i’w ennill.
Weithwyr pob gwlad, ymunwch!
NODIADAU
1. Hynny yw, a bod yn gywir, hanes ysgrifenedig traddodiadol. Yn 1847 yr oedd
cyn-hanes cymdeithas, a'r drefn gymdeithasol a ragflaenodd bob hanes ysgrifenedig,
bron yn anadnabyddus. Wedi hynny, darganfu Haxthausen gyd-feddiant tir yn
Rwsia, dangosodd Maurer mai ar y sylfaen gymdeithasol hon y cychwynodd pob
un o'r llwvthau Almaenaidd ar eu gyrfa hanesyddol, a darganfuwyd yn raddol
mai cymdeithasau pentrefol a seiliwyd ar gyd-feddiant tir oedd y ffurf gyntefig
ar gymdeithas o India i lwerddon. Yn y diwedd datguddiwyd yn ei ffurf fwyaf
nodweddiadol drefniant mewnol y gymdeithas gomiwnyddol gyntefig hon gan Forgan
yn ei ben-darganfyddiad o wir ansawdd y genedl â'i pherthynas â'r
Ilwyth. Gydag ymddatodiad y cymdeithasau cyntefig hyn dechreuodd cymdeithas
hollti'n wahanol ddosbarthiadau ac, yn y pen draw, yn ddosbarthiadau anghymodlon.
2. Felly y galwodd dinaswyr Ffrainc a'r Eidal eu gwerin-lywodraethau dinesig wedi iddynt am y tro cyntaf brynu hawliau ymreolaeth oddi wrth yr arglwyddi ffiwdal neu ynteu wedi iddynt eu cipio oddi arnynt.
3. Yn argraffiad Saesneg 1888 rhoes Engels ar ôl y geiriau ’’ddinaswladwriaeth annibynnol" y geiriau: (megis yn yr Eidal a'r Almaen) ; ac ar ôl y geiriau "trydedd ystad drethadwy dan y frenhiniaeth" y geiriau: (megis yn Frainc). Cyfieithydd
4.Yn y gwreiddiol: “chinesischen Mauern”, hynny yw muriau Chineaidd. Cyfiethydd
5. Fe ysgubodd Chwyldro 1848 yr holl dueddiadau anhyfryd hyn i ffwrdd, a chollodd eu chefnogwyr bob ymddiried pellach mewn Sosialaeth. Prif gynrychiolydd y datblygiad hwn, a’i deip clasurol, ydyw Karl Grun.
6. Trefedigaethau Cartref
(trefedigaethau yn y cartrefdir) a alwai Owen ei fodel-gymdeithasau Comiwnyddol.
Phalanstères odd en war y palasau cymdeithasol a blannwyd gan Fourier.
Icaria a elwid y wlad ddychmygol utopaidd y portreadoddd Cabet ei sefydliadau
Comiwnyddol.
7. Cynrychiolid yr hyn a elwid y pryd hynny’n Blaid Ddemocrataidd-Sosialaidd
gan Ledru-Rollin mewn glwidyddiaeth a chan Louis Blanc mewn llenyddiaeth;
yr oedd byd o wahaniaeth rhygddi, felly, a’r Ddemocraieth Sosialaidd
yn yr Almaen heddiw.