
Ewch i: Addysg Lles Hawliau Dros Gymru Sosialaidd
Gwaith
Galwad i'r Undebau i weithredu ar unwaith eu hawliadiau am isafswm fel cam tuag at £8 yr awr. Heb eithriadau. Dros ychwanegiad blynyddol yn yr isafswm cyflog, gan gysylltu â’r cyflog cyfartalog. Dros isafswm £320 yr wythnos.
Gwrthwynebu ‘O Fydd-dal i Waith’ y Llywodraeth. Dros yr hawl i fudd-daliadau addas, hyfforddiant neu waith i bawb, heb orfodaeth.
Polisiau at gyflogaeth llawn yn cynnwys: wythnos 35awr heb golli tâl, cynydd enfawr yng ngwariant dros iechyd, tai, addysg, gofal plant, cyfleusterau hamdden a chymunedol.
Hawliau diogelu cyflogaeth i bawb o’r diwrnod cyntaf.
Difa’r deddfau yn erbyn undebau llafur. Yr undebau llafur i fod o dan reolaeth eu haelodau. Swyddogion etholedig i dderbyn cyflog gweithiwr.
Diwedd i’r ‘fat cats’. ailwladoli’r dwr, nwy a thrydan o dan reolaeth democrataidd.
Addysg am ddim i bawb o’r feithrinfa i’r brifysgol, gyda grant digonol. Dilëwch fioedd nawr!.
Hawl i bob ddisgybl gael addysg Gymraeg neu Seisnig mewn ysgol gyfleus.
Adeiladu ysgolion newydd, yn lle cau ysgolion Seisneg i wneud ysgolion Cymraeg.
Dros bensiwn teg i bob bensiynwyr – i godi’n flynyddol mewn cydrediad â chyflogau.
Ailadeiladu y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, am ddim i ddefnyddwyr, o dan reolaeth ddemocrataidd.
Dros yr hawl am erthyliad. Dros hawliau i fenywod ddewis os a phan byddan nhw’n cael plant.
Dros dai da gyda rhent fforddiol. Diwedd i’r argyfwng tai.
Buddsoddiad mewn cyfundrefn drafnidiaeth gyhoeddus, yn rhad, yn gyfleus, yn amgylcheddol.
Dros hawl i loches. Diwedd i ddeddfau lloches. Diwedd i ddeddfau hiliol.
Diwedd i ymyrraeth gan yr heddlu. Dileu y Ddeddf Cyfiawnder Troseddol. Dileu y mesur ‘gwrth - terfysgaeth’. Yn erbyn cwtogi’r hawl i brawf gan reithgor.
Diwedd i wahaniaethu ar sail hil, cenedl, rhywioldeb, neu anabledd.
Hawliau cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg. Pob cwmni mawr sy'n darparu wasanaethau i'r cyhoedd i rhoi dewis yng Ngymraeg.
Dros blaid gywir newydd i’r dosbarth gweithiol.
Adeiladu undod rhwng grwpiau sosialaidd, cymunedol ac amgylcheddol yng Nghymru.
Pob grym deddfol ac ariannol i’r Cynulliad, gan gynnwys y grym i wladoli cwmnïau sy’n bygwth diswyddiadau.
Gwladoli’r cwmnïau mawr sy’n rheoli economi Cymru; eu dwyn dan reolaeth ddemocrataidd gan y dosbarth gweithiol. Dim iawndal ac eithrio ar sail angen wedi ei brofi.
Dros Gymru sosialaidd fel rhan o gynghrair sosialaidd o Gymru, Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon.
Dros undod y dosbarth gweithiol. Gwrthwynebu Maastricht, gwrthwynebu Undeb Ewropeaidd y cyfalafwyr.
Dros Ewrop Sosialaidd.